Daearyddiaeth De Affrica

Saif De Affrica ar ran deheuol cyfandir Affrica, wedi ei hamgylchynu ar dair ochr gan y môr. Mae gan y wlad dros 2,500 km (1,553 milltir) o arfordir. Yn y gogledd, mae'n ffinio ar Namibia, Botswana, Simbabwe, Mosambic a Gwlad Swasi, tra mae Lesotho yn cael ei hamgylchynu gan Dde Affrica.

Topograffiaeth De Affrica

O gwmpas yr arfordir mae rhimyn gweddol gul o dir isel, er ei fod yn lletach mewn ambell fan, megis talaith KwaZulu-Natal yn y dwyrain. Yng nghanol y wlad mae llwyfandir uchel. Yn rhan orllewinol y llwyfandir yma, ceir y Karoo, sy'n boeth iawn yn yr haf ond yn oer iawn yn y gaeaf. Dim ond dwy afon fawr sydd gan Dde Affrica, Afon Limpopo ac Afon Oren.

Mynydd uchaf y wlad yw Njesuthi, sy'n 3,410 medr o uchder. Saif yng ngorllewin y wlad, ar y ffîn a Lesotho.

Eginyn erthygl sydd uchod am Dde Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.