Daearyddiaeth Gwlad Groeg

Saif Gwlad Groeg yn ne-ddwyrain Ewrop, ar ran ddeheuol Penrhyn y Balcanau a'r ynysoedd o'i amgylch yn Môr y Canoldir. Dim ond darn cul o dir sy'n cysylltu rhan ddeheuol y penrhyn, y Peloponnesos, a'r tir mawr. Yn y gogledd, mae Groeg yn ffinio ar Bwlgaria, Gweriniaeth Macedonia ac Albania, ac yn y dwyrain a Twrci. Mae rhwng 1,400 a 2,000 o ynysoedd yng Ngwlad Groeg, yn dibynnu sut y diffinnir ynys, ond dim ond ar 227 ohonynt y mae poblogaeth barhaol, a dim ond ar 78 o'r rhain y mae mwy na 100 o drigolion. Ymhlith y rhain mae Creta, Rhodos, Kerkyra, Chios, y Dodecanese a'r Cyclades.

Groeg

Gwlad fynyddig yw Groeg, gyda tua 80% o'i harwynebedd yn fynyddig. Yng nghanol y penrhyn, mae mynyddoedd y Pindus yn ymestyn o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain, ac yn codi i 2637 medr o uchder. Copa uchaf Groeg yw Mynydd Olympus, 2919 medr o uchder. Ar y ffîn rhwng Groeg a Bwlgaria mae Mynyddoedd Rhodope.

Rhanbarthau Groeg golygu