Daearyddiaeth Mali

Gwlad fawr yng Ngorllewin Affrica yw Mali, sy'n ffinio ag Algeria i'r gogledd, Senegal a Mauritania i'r gorllewin, Gini i'r de-orllewin, Bwrcina Ffaso ac Arfordir Ifori i'r de, a Niger i’r dwyrain.

Map o Fali
Pysgota ar Llyn Sélingué

Mae Mali yn wlad gyfandirol, heb fynediad i'r môr. Mae rhan helaeth o ogledd a chanolbarth y wlad yn dir anial, sy'n rhan o Anialwch y Sahara; yn y de ceir tir savannah sych (sy'n rhan o'r Sahel) a choedwigoedd trofaol. Mae bywyd gwyllt y de yn atyniad twristaidd heddiw. Mae Afon Niger yn rhedeg ar draws y wlad fel bwa o'r gorllewin i'r dwyrain ac mae'r prif drefi i'w cael ar hyd ei glannau. Rhwng Ségou a Tombouctou mae'r afon yn troi'n ddelta dŵr croyw sylweddol gyda gwelyau alwfial.

Mae dros 90% o'r boblogaeth yn byw yn y canolbarth a'r de. Ar wahân i'r brifddinas Bamako, y prif drefi a dinasoedd yw Sikasso, Ségou, Mopti, Tombouctou (Timbuktu), Gao a Tessalit.

Rhanbarthau golygu

Rhennir Mali yn wyth rhanbarth ac un ardal. Maen hw'n cael eu henwi ar ôl eu tref bwysicaf. Ceir tair rhanbarth yn y gogledd sy'n cynrychioli dau draean o arwynebedd tir y wlad ond dim ond 10% o'r boblogaeth sy'n byw yno:

Gao,
Kidal
Tombouctou

Yn y de mae'r wlad yn cael ei rhannu'n bump rhanbarth, sef

Kayes
Koulikoro
Mopti
Ségou
Sikasso

Yn ogystal ceir un ardal o gwmpas y brifddinas:

Bamako

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Fali. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.