Daearyddiaeth y Swistir

Dominyddir daearyddiaeth y Swistir gan ei mynyddoedd a'i bryniau. Saif y Swistir yng nghanolbarth Ewrop, ac nid oes ganddi arfordir. Yn y de mae prif gadwyn yr Alpau yn ymestyn ar hyd y ffin â'i copaon uchaf yn dynodi'r ffin honno. Copa uchaf y Swistir yw'r Dufourspitze, 4634 medr o uchder. Ymhlith copaon enwocaf yr Alpau Swisaidd mae'r Matterhorn, yr Eiger a'r Jungfrau. Yn y canolbarth mae llwyfandir, tra yn y gogledd-orllewin mae mynyddoedd y Jura o gwmpas y ffîn a Ffrainc. Mae'r mynyddoedd hynny a'r bryniau llai sy'n llenwi'r rhan fwyaf o ganolbarth a gogledd y wlad yn cael eu gwahanu gan nifer o ddyffrynoedd a chymoedd mawr a bach.

Lleoliad y Swistir yn Ewrop
Y Grosse Scheidegg yng nghanton Bern

Mae'r Swistir yn wlad â nifer fawr o lynnoedd ac afonydd yn ogystal. Rhennir y ddau lyn mwyaf, Llyn Léman (Llyn Genefa) (581.3 km2) a'r Bodensee (541.1 km2) gyda gwledydd eraill. Y llyn mwyaf sy'n gyfangwbl o fewn y Swistir yw Llyn Neuchâtel (218.3 km2). Mae'n wlad goediog iawn.

Defnydd tir golygu

  • cnydau: 10%
  • cnydau parhaol: 2%
  • porfa barhaol: 28%
  • fforestydd a choedydd:32%
  • arall:28% (amcangyfrif 1993)