Ym mytholeg Roeg, duw crefftwaith a chelf a dyfeisydd heb ei ail yw Daedalus (Groeg, yn golygu "crefttwr craff"). Mae'n enwocaf fel y dyn a cheisiodd hedfan am y tro cyntaf erioed. Roedd ganddo fab o'r enw Icarus.

Daedalus ac Icarus yn ffoi o Creta. Paentiad gan Charles Paul Landon, 1799

Yn ôl traddodiad, roedd yn fab i'r Atheniad Metion, fab Eupalamus a wŷr y brenin chwedlonol Erechtheus.

Roedd ei gwlt yn arbennig o boblogaidd ymhlith gildiau crefftwyr Athen ac Attica. Roedd yn cael ei gyfrif fel yr artist cyntaf i lwyddo i bortreadu'r corff dynol yn realistig. Roedd yn bensaer enwog hefyd. Fel dyfeisydd, roedd ei ddarganfyddiadau yn cynnwys offer fel y bwyall a'r llif; dyfeisiodd yr olaf ar ôl gwylio neidr yn cnoi. Dywedir iddo ddyfeisio olwyn y crochenydd hefyd.

Ond roedd Daedalus yn genfigenus o ddoniau ei ddisgybl, nai mab ei chwaer Perdix. Un diwrnod, gwylltiodd a thaflodd y llanc o ben yr Acropolis yn Athen. Cafwyd hyd iddo yn ceisio claddu'r corff ac fe'i dedfrydwyd i farwolaeth gan gyngor yr Areopagus ac fe ffoes i ynys Creta.

Ar yr ynys, cafodd nawd gan y brenin Minos a'i wraig Pasiphaë. Yn ôl y chwedl, lluniodd fuwch bren i'r frenhines er mwyn iddi gael cyfathrach gyda tharw wyn a ganwyd y Minotaur o'r cyplysiad hwnnw. Gorchmynodd Minos iddo adeiladau labrinth ger Cnossos i gadw'r Minotaur yno. Diolch i gyngor Daedalus, llwyddodd Ariadne ferch Pasiphaëe i gynorthwyo Theseus i ladd y Minotaur. Digiodd Minos wrtho a chafodd ei garcharu gyda'i fab Icarus yn y labrinth.

Er mwyn dianc o afael Minos, dyfeisiodd Daedalus ddau bâr o esgyll, un iddo ef a'r llall i Icarus, a fyddai'n eu galluogi i hedfan yn ôl i Roeg. Ond hedodd Icarus yn rhy agos i'r haul a doddodd y cwyr oedd yn dal yr adenydd wrth ei gilydd a syrthiodd i'w farwolaeth yn y môr a elwid yn Fôr Icarus ar ei ôl. Golchwyd ei gorff i'r lan ar ynys lle y'i claddwyd gan Heracles: enwyd yr ynys yn Icaria am hynny.

Ceir chwedl arall sy'n dweud fod Daedalus wedi ffoi i ynys Sisili. Ceisiodd Minos ei erlid eto ond fe'i lladdwyd gan Daedalus. Treuliodd ei ddyddiau olaf yn Sisili yn codi adeiladau yn y teyrnasoedd Groeg yno.

Ffynhonnell golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).