Dafydd (Michelangelo)

ceflun gan Michelangelo

Cerflun enwog gan Michelangelo yw Dafydd (Eidaleg: David), sy'n bortread delfrydol yn y dull clasurol o'r brenin Dafydd, gorchfygwr Goliath yn yr Hen Destament a brenin Israel. Cafodd ei gerfio o farmor gan Michelangelo yn y cyfnod o 1501 i 1504. Fe'i ystyrir yn un o gampweithiau mawr byd celf ac yn un o uchafbwyntiau celf y Dadeni.

Y cerflun Dafydd gan Michelangelo

Mae'r cerflun, sy'n mesur 540 cm, yn portreadu Dafydd fel dyn ifanc athletaidd ond ymlaciedig o gymesuredd berffaith, yn gwbl noeth yn ôl yr arfer clasurol wrth bortreadu arwyr. Roedd yn arfer gan artistiaid ddangos Dafydd yn dal pen y cawr Goliath, ond dewisodd Michelangelo ei bortreadu fel ffigwr delfrydol sy'n ymgnawdoli ieuenctid gwrywaidd a chyfianwder. Cerfiodd yr artist Ddafydd ar ôl cyfnod yn Rhufain lle astudiodd gerfluniau o'r cyfnod Helenistaidd ac mae dylanwad yr arddull Groegaidd ar y gwaith yn amlwg. Ac eto ni ellir ei gamgymryd am gerflun Clasurol; mae ysbryd y Dadeni yn ei lenwi ac mae'n cychwyn pennod newydd yn hanes cerfluniaeth yn hytrach nag edrych yn ôl fel dynwarediad marw.[1]

Cafodd Michelangelo ei gomisiynu i'w gerfio yn 1501, pan oedd yn 26 oed. Y bwriad oedd ei osod yn uchel ar un o archau eglwys gadeiriol Fflorens (Il Duomo), ond penderfynodd Tadau'r Ddinas ei osod o flaen y Palazzo Vecchio fel arwyddlun o ysbryd dinesig a brogarol Gweriniaeth Fflorens.[2] Erbyn heddiw mae'r cerflun gwreiddiol yn cael ei gadw a'i arddangos yn amgueddfa'r Accademia yn Fflorens a cheir copi ohono o flaen y Palazzo Vecchio.

Cyfeiriadau golygu

  1. H. W. Janson, Histoire de l'Art (Paris, 1964), tud. 539.
  2. Histoire de l'Art, tud. 539.