Dafydd Ddu o Hiraddug

gŵr y cysylltir ei enw â'r gramadeg neu'r "llyfr cerddwriaeth" cyntaf sydd gennym

Bardd ac ysgolhaig oedd Dafydd Ddu o Hiraddug (bl. tua 1330 – 1370). Mae'n adnabyddus yn bennaf fel awdur golygiad newydd o ramadeg barddol Einion Offeiriad ond roedd yn fardd medrus hefyd.

Dafydd Ddu o Hiraddug
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
Cwm Edit this on Wikidata
Bu farw1371 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, canon Edit this on Wikidata
Blodeuodd1400 Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Yn llawysgrifau'r 16g gelwir Dafydd yn 'Ddafydd Ddu Athro o Degeingl a Hiraddug'. Trefgordd ym mhlwyf y Cwm yng nghwmwd Rhuddlan, rhwng Afon Clwyd a Bryniau Clwyd, oedd Hiraddug, a gyda cymydau Prestatyn a Cwnsyllt roedd cwmwd Rhuddlan yn un o dri chwmwd cantref Tegeingl. Mae'r gair 'Athro' yn awgrymu iddo dreulio cyfnod mewn prifysgol; Prifysgol Rhydychen efallai.[1]

Dilynodd yrfa eglwysig ac mae lle i gredu iddo ddod yn un o ganoniaid Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Dywedir hefyd ei fod yn gofalu am lyfrgell Esgobaeth Llanelwy yn amser yr Esgob Siôn Trefor (bu farw 1357) ac ar ôl hynny. Yn ôl y Dr John Davies o Fallwyd, penodwyd Dafydd yn archddiacon pan urddwyd y cyn-archddiacon Llywelyn ap Madog ab Elis yn esgob deg mis ar ôl marwolaeth Siôn Trefor. Gwyddom mai Ithel ap Robert, un o noddwyr pwysicaf Iolo Goch oedd yn archddiacon yn 1371 ac felly mae'n deg casglu fod Dafydd Ddu yn farw erbyn hynny.[1]

Yn ôl traddodiad a nodir gan Edward Lhuyd, claddwyd Dafydd Ddu yn eglwys Diserth. Ymddengys mai disail yw'r honiad iddo gael ei gladdu yn eglwys Tremeirchion.[1]

Gwaith llenyddol golygu

Gwaith enwocaf Dafydd Ddu yw ei olygiad o'r newydd o ramadeg Einion Offeiriad. Mae'n debyg fod sawl un o'r cerddi enghreifftiol yn y gramadeg hwnnw yn waith Dafydd Ddu ei hun er nad oes modd profi hynny. Cedwir ar glawr pedair cerdd wrth enw Dafydd Ddu o Hiraddug. Ceir dau gywydd crefyddol ac addysgol. Mae'r drydedd yn awdl sy'n synfyfyrdod ar dynged dyn a byrhoedledd bywyd. Gwahanol iawn yw'r bedwaredd, englyn serch i ferch a geir yn y Gramadeg.[1]

Chwedlau golygu

Tyfodd cylch o chwedlau am alluoedd Dafydd Ddu fel dewin ar lafar gwlad. Credid fod ei grym yn tarddu o'i gyfathrach ag ysbrydion drwg.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • R. Geraint Gruffudd a Rhiannon Evans (gol.), Gwaith Einion Offeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug (Aberystwyth, 1997).

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Gwaith Einion Offeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug (Aberystwyth, 1997). Rhagymadrodd.