Dafydd ap Llywelyn

tywysog

Dafydd ap Llywelyn (c. 1215–Chwefror 25, 1246), oedd Tywysog Cymru a Gwynedd rhwng 1240 a 1246.

Dafydd ap Llywelyn
Ganwyd1215, Mawrth 1208 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw25 Chwefror 1246 Edit this on Wikidata
Abergwyngregyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn, pendefig Edit this on Wikidata
SwyddTeyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
TadLlywelyn Fawr Edit this on Wikidata
Mamy Dywysoges Siwan Edit this on Wikidata
PriodIsabella de Braose Edit this on Wikidata
PlantDafydd ap Dafydd ap Llywelyn, Tangwystl ferch Dafydd, Elen ferch Dafydd, Annes ferch Dafydd ap Llywelyn ap Iorwerth, Llywelyn ap Dafydd, Llywarch ap Dafydd ap Llywelyn Edit this on Wikidata
LlinachLlinach Aberffraw Edit this on Wikidata
Baner Gwynedd

Etifedd Llywelyn golygu

Dafydd oedd unig fab Llywelyn Fawr o'i wraig briod Siwan, merch John, brenin Lloegr. Yn ei flynyddoedd olaf aeth Llywelyn i lawer o drafferth i gael cydnabod Dafydd fel ei etifedd ac olynydd. Yn ôl cyfraith Cymru, buasai'r deyrnas yn cael ei rhannu rhwng Dafydd a'i frawd hŷn Gruffudd, sef mab gordderch Llywelyn Fawr, ond trwy rym ei awdurdod llwyddodd Llywelyn i gael y tywysogion Cymreig a'i ddeiliaid eraill i gydnabod Dafydd fel ei unig etifedd cyfreithlon mewn seremoni yn Abaty Ystrad Fflur ym 1238. Llwyddodd yn ogystal i gael ewythr Dafydd, Harri III, brenin Lloegr, i'w gydnabod fel Tywysog Cymru yn 1220 (y cyntaf i gael y teitl yma gyda chydnabyddiaeth Lloegr, er i'w dad fod yn Dywysog Cymru de facto), a pherswadiodd y Pab i gyhoeddi mam Dafydd, Siwan, yn gyfreithlon i gryfhau sefyllfa Dafydd.

 
Manylun

Tywysog golygu

Ar farwolaeth Llywelyn yn 1240 daeth Dafydd yn dywysog Gwynedd. Er fod Harri III wedi derbyn ei hawl i deyrnasu ar Wynedd, nid oedd yn barod i adael iddo gadw'r tiroedd yr oedd ei dad wedi eu goresgyn tu allan i Wynedd. Wnaeth Dafydd fforio opsiynau diplomatig, ac anfonodd lysgenhadon i Ffrainc yn 1241, ond ym mis Awst y flwyddyn honno ymosododd y brenin ar Wynedd, a gorfodwyd Dafydd i ildio iddo. O dan amodau Cytundeb Gwerneigron, collodd Dafydd ei diroedd tu allan i Wynedd a bu raid iddo drosglwyddo ei frawd Gruffudd i'r brenin. Roedd Dafydd wedi bod yn cadw Gruffudd yn garcharor, ac yn llaw y brenin gallai fod yn arf defnyddiol yn erbyn Dafydd. Difethwyd unrhyw gynlluniau oedd gan y brenin pan fu farw Gruffudd wrth geisio dianc o Dwr Llundain yn gynnar yn 1244.

Roedd hyn yn rhyddhau dwylo Dafydd, a gwnaeth gynghrair gyda thywysogion eraill Cymru i ymosod ar feddiannau Seisnig yng Nghymru a thu hwnt. Cafodd y gwrthryfel gryn lwyddiant; erbyn Mawrth 1245 roedd Dafydd wedi goresgyn Tegeingl (ardal Sir y Fflint heddiw), yn ail-gipio tiroedd ei etifeddiaeth. Cwympodd castell Yr Wyddgrug iddo yn y gwanwyn, ac wnaeth o ymosod ar gastell Diserth hefyd gyda chatypyltau. Yn Awst 1245, ymosododd y Brenin Harri ar Wynedd eto, ac adeiladodd gastell newydd yn Neganwy. Bu ymladd ffyrnig, gan gynnwys ymosodiad Cymreig ar gwch Seisnig yn afon Conwy; ond diweddwyd yr ymgyrch gan farwolaeth annisgwyl Dafydd yn ei lys yn Abergwyngregyn yn Chwefror 1246. Fe'i claddwyd gyda'i dad yn Abaty Aberconwy. Am gyfnod, credwyd fod Dafydd yn gorwedd o fewn arch yn eglwys Crwst, ond arch Hywel Coetmor ydy o.

Yr olyniaeth golygu

Gan nad oedd priodas Dafydd ag Isabella, merch William de Braose wedi cynhyrchu aer, rhannodd dau fab Gruffudd, Llywelyn ap Gruffudd ac Owain ap Gruffudd, y deyrnas rhyngddynt, a pharhau'r rhyfel gyda'r brenin trwy gydol 1246. Yn Ebrill 1247 cyfarfu Llywelyn ac Owain a'r brenin yn Woodstock a daethant i gytundeb ag ef, ar gost colli llawer o'u tiroedd (gweler Cytundeb Woodstock).

 
 
 
 
 
 
 
 
Llywelyn Fawr
1173-1240
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Gruffudd ap Llywelyn Fawr
1200-1244
 
Dafydd ap Llywelyn
1215-1246
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Goch ap Gruffydd
d. 1282
 
Llywelyn ap Gruffudd
(Llywelyn yr Ail)
1223-1282
 
 
 
Dafydd ap Gruffydd
1238-1283
 
 
 
 
 
 
 
Rhodri ap Gruffudd
1230-1315
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Y Dywysoges Gwenllian
1282-1337
 
Llywelyn ap Dafydd
1267-1287
 
Owain ap Dafydd
1265-1325
 
Gwladys
(m. 1336 yn Sixhills)
 
Tomas ap Rhodri
1300-1363
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Lawgoch
1330-1378

Dafydd a'r beirdd golygu

Cedwir ar glawr tair cerdd i Ddafydd ap Llywelyn gan y beirdd llys, dwy ohonynt gan Dafydd Benfras ac un gan Einion Wan.[1] Canodd Einion gerdd dadolwch i gymodi â Dafydd. Canodd Dafydd Benfras awdl o foliant i'r tywysog ond ei gerdd fwyaf diddorol o safbwynt haneswyr yw ei farwnad iddo a gyfansoddwyd yn fuan ar ôl ei farwolaeth yn Chwefror 1246. Yn y rhan gyntaf cymherir Dafydd a'i dad Llywelyn Fawr a'i frawd Gruffudd, a farwnadwyd yn barod gan Dafydd Benfras. Yn yr ail ganiad canmolir dewrder Dafydd a'i haelioni. Yn y drydydd ganiad cyfeirir at helyntion blynyddoedd olaf y tywysog a'i dras frenhinol. Mae'r gerdd yn gorffen ar nodyn personol iawn:

Ef a'm talai aur ar fy mysedd,
Nid ef a delid drwy dalarwedd;
 Dafydd dreisrydd drosedd — cyn golo,
Ni bu o Gymro ei gymrodedd.
Bûm i gyda hael, hwylglod rysedd,
Buarth eryr gwŷr, uch gwin a medd,
Bûm i gydag ef, yd gefais wledd;
Boed i gyda'i Dduw fo ei ddiwedd.[2]

Arall golygu

Fel coffhâd iddo, enwyd asteroid ar ei ôl yn 2009 o'r enw 18349 Dafydd.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. N. G. Costigan ac eraill (gol.), Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995).
  2. Gwaith Dafydd Benfras ac eraill..., tud. 472.
  3. Erthygl yn y Daily Post

Llyfryddiaeth golygu

Rhagflaenydd:
Llywelyn Fawr
Tywysogion Gwynedd
Dafydd ap Llywelyn
Olynydd:
Llywelyn ap Gruffudd