Danadl poethion
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Rosales
Teulu: Urticaceae
Genws: Urtica
Rhywogaeth: U. dioica
Enw deuenwol
Urtica dioica
L.
Y pigiadau bach

Llysieuyn bychan rhwng 20 – 60 cm yw danadl poethion neu'r dynaint neu weithiau dynad (Lladin: Urtica dioica; Saesneg: nettle) ac mae fel arfer yn tyfu fel chwynyn mewn hen erddi neu wrychoedd. Ceir rhwng 35 a 40 math gwahanol ohono.

Llysiau rhinweddol golygu

Mae danadl poethion yn gyfoethog o rinweddau ac yn cynnwys: asid carbonig, asid fformig, aminia, haearn, ffosffadau a Fitamin A.[1] Gellir eu bwyta fel bresych (wedi'u berwi) gyda chaws mân neu fenyn, neu yfed y dŵr fel te: sydd yn dda at gowt a chael gwared o gerrig o'r corff.

Mae un astudiaeth o'r gwenwyn sydd ynddynt yn mynnu fod seratonin, asid ocsalig ac asid tartarig ynddo.

Cyfeiriadau golygu

  1. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato