Poen yn y geg ydy'r ddannodd a achosir gan haint yn y bywyn neu niwed i'r dannedd.[1] Gwaith y deintydd yw archwilio, deiagnosio, atal y ddannodd a phydredd y dant ynghyd â thrin problemau'r geg drwy lawdriniaeth ar y dannedd. Defnyddir borselain neu amalgm i lenwi'r dannedd ac ar adegau metalau gwerthfawr megis aur.

Jack Jones, Blaenau Ffestiniog mewn poen dirfawr oherwydd ei ddannodd ym 1875. Ffotograff gan John Thomas (ffotograffydd).

Cyfeiriadau golygu

  1. Mosby's Medical Dictionary (St Louis, Missouri, Mosby Elsevier, 2009 [wythfed argraffiad]), t. 1859. ISBN 978-0323052900
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddeintyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.