Darlledwr cyhoeddus

Cyfundrefn sy'n darlledu ar y teledu neu'r radio er budd y cyhoedd yw Darlledwr Cyhoeddus. Yn wahanol i ddarlledwyr masnachol, mae darlledwyr cyhoeddus fel arfer yn atebol i'w gwylwyr ac mae disgwyl i'r rhaglenni ddiwallu anghenion pob un. Oherwydd hyn, nid y ffigyrau gwylio yw'r blaenoriaeth bob tro, rhaid gwneud rhaglenni sy'n apelio at ac sy'n cynrychioli pawb yn lle mynd ar ôl y gynulleidfa fwyaf yn gyson.

Enghreifftiau o ddarlledwyr cyhoeddus yw'r BBC ac S4C.