Darren Star

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Potomac yn 1961

Mae Darren Bennett Star (ganed 1961) yn gyfarwyddwr ffilmiau / rhaglenni teledu a sgriptiwr Iddewig-Americanaidd.

Darren Star
Ganwyd25 Gorffennaf 1961 Edit this on Wikidata
Potomac Edit this on Wikidata
Man preswylBel Air Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethsgriptiwr, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, showrunner, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Mae Star yn fwyaf adnabyddus am greu'r gyfres deledu hynod lwyddiannus Beverly Hills 90210, Melrose Place (a gynhyrchodd ar y cyd gydag Aaron Spelling) a Sex and the City a oedd yn seiliedig ar y nofel o'r un enw gan Candace Bushell. Yn ogystal â chreu'r cyfresi hyn, ysgrifennodd nifer o'r sgriptiau a chyfarwyddodd rhai o'r rhaglenni.

Mynychodd Star Prifysgol California yn Los Angeles, lle graddiodd mewn ysgrifennu creadigol. Pan oedd yn 24 oed, gwerthodd ei sgript gyntaf Doin' Time on Planet Earth. Ar y pryd, trigai mewn cymuned o fflatiau yng Ngorllewin Hollywood a ddaeth yn fodel ar gyfer Melrose Place yn ddiweddarach.

Mae gweithiau eraill Star yn cynnwys Central Park West (1995) ar gyfer CBS; The WB's Grosse Pointe (2000), a ddisgrfiodd Star ei hun fel fersiwn ddychanol o Beverly Hills, 90210; The $treet (2000) ar gyfer FOX; Miss Match (2003) ar gyfer NBC; Kitchen Confidential (2005); The CW's Runaway (2006); a Cashmere Mafia ar gyfer ABC, a ddechreuodd yn 2008. Star oedd uwch-gynhyrchydd Sex and the City: The Movie, a ryddhawyd yn 2008.

Ei Fywyd Personol golygu

Magwyd Star yn Potomac, Maryland, a mynychodd Ysgol Uwchradd Winston Churchill. Arferai ei dad fod yn orthodontydd cyn iddo ymddeol.

Bellach mae Star yn byw yn Ninas Efrog Newydd a Los Angeles. Mae'n agored fel dyn hoyw [1]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni Allanol golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.