Digrifwr o Wyddel oedd Dave Allen, ganwyd David Tynan O'Mahony[1] (6 Gorffennaf 193610 Mawrth 2005).[2]

Dave Allen
Dave Allen yn cyflwyno'r rhaglen CBS Showtime ym 1968.
GanwydDavid Tynan O'Mahoney Edit this on Wikidata
6 Gorffennaf 1936 Edit this on Wikidata
Firhouse Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mawrth 2005 Edit this on Wikidata
o Syndrom marwolaeth sydyn yn y nos Edit this on Wikidata
Kensington Edit this on Wikidata
Man preswylDulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gwyddel
Alma mater
  • Newbridge College
  • Catholic University School
  • Terenure College Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, digrifwr, sgriptiwr, digrifwr stand-yp Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddullcomedi arsylwadol, dychan Edit this on Wikidata
Mudiadanffyddiaeth Edit this on Wikidata
PerthnasauNora O'Mahony Edit this on Wikidata
Gwobr/auBritish Comedy Awards 1996 Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Tallaght, Dulyn, yn fab i reolwr golygyddol The Irish Times, a chafodd ei addysgu gan y Carmeliaid.[3] Ar ôl gadael ysgol gweithiodd fel newyddiadurwr ac yna "Redcoat" yn Butlins. Newidodd ei enw i Dave Allen ac ymddangosodd ar deledu yn gyntaf ym 1959 ar y sioe dalent New Faces. Aeth i Awstralia a chyflwynodd Tonigh With Dave Allen, un o'r rhaglenni mwyaf llwyddiannus yn hanes teledu yn Awstralia,[3] cyn dychwelyd i Brydain ac ymddangos ar Sunday Night at the London Palladium. Adfywiodd Tonight With Dave Allen ar gyfer y BBC ym 1968, a chyflwynodd Dave Allen and Friends (ATV) a Dave Allen at Large yn y 1970au. Enillodd Dave Allen at Large y Rhosyn Arian yng ngŵyl deledu Montreux ym 1978.[3]

Ar ei raglenni teledu, roedd Dave Allen yn eistedd ar gadair gyda sigarét a gwydraid o wisgi tra'n adrodd jôcs a straeon doniol i'r gynulleidfa a chyflwyno sgetshis. Roedd y fformat hwn yn llwyddiannus dros ben a daeth Allen yn boblogaidd ym Mhrydain, Awstralia, a hefyd yn Nwyrain Ewrop.[1] Roedd rhai o'i straeon yn straeon asgwrn pen llo am flaen coll ei fys modrwy chwith,[3] a gollodd mewn cocsen pan oedd yn blentyn.[1] Roedd ei sgetshis yn torri tir gan iddynt gael eu ffilmio ar leoliad ac ar stoc ffilm yn hytrach na thâp fideo, ac felly'n rhoi i'r rhaglen olwg oedd yn wahanol i sioeau sgetshis eraill o'r cyfnod.[4] Ymddangosodd actorion cymeriadau medrus megis Ronnie Brody a Michael Sharvell-Martin yn ei sgetshis.

Roedd yn hoff o wneud hwyl am ben rhagrith a thwpdra bywyd,[1] ac yn enwedig awdurdodaeth.[2] Anffyddiwr oedd Allen a ddywedodd "I'm an atheist...thank God",[5] a gwnaeth crefydd yn destun sbort yn aml, yn bennaf yr Eglwys Gatholig ac Eglwys Loegr. Roedd ei hiwmor crefyddol yn ddadleuol ac yn dabŵ yn y cyfnod, yn enwedig yn Iwerddon. O ganlyniad i sgetsh am y Pab yn stripio, cafodd rhaglenni Allen waharddiad de facto gan RTE.[1] Bu'n rhaid i'r BBC ymddiheuro ym 1990 pan defnyddiodd Allen y rheg "fuck" mewn jôc, digwyddiad a gafodd ei drafod yn Nhŷ'r Cyffredin.[2]

Perfformiodd nifer o sioeau un dyn yn y 1970au a'r 1980au gan drosglwyddo ei ymsonion o deledu i'r theatr. Roedd yn hoff o gloi perfformiadau gan ddweud, "Goodnight, good luck, and may your God go with you".[1] Actiodd hefyd mewn nifer o ddramâu a phantomeimiau. Daeth ei raglen deledu olaf, Dave Allen, i ben ym 1994. Bu'n briod dwywaith: i'r actores Judith Stott o 1964 hyd 1983, ac i Karin Stark o 2004 hyd ei farwolaeth yn oed 68. Roedd ganddo dri o blant.[3]

Roedd yn adnabyddus am ei amseru[2] a'i laconigrwydd, ac roedd gan ei hiwmor elfen swreal iddo.[3] Ystyrir Allen, ynghyd â Billy Connolly, yn y digrifwyr amgen cyntaf yng ngwledydd Prydain.[2] Dywedodd Barry Cryer amdano: "he proved you could be serious and funny - he was our Bill Hicks."[6]

Teledu golygu

  • The Val Doonican Show (1965-1970)
  • Tonight with Dave Allen (1967)
  • The London Palladium Show (1967)
  • The Dave Allen Show (1968)
  • Dave Allen at Large (1971-79)
  • The Dave Allen Show in Australia (1977)
  • Dave Allen (1993)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) Obituary: Dave Allen. BBC (11 Mawrth 2005). Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2012.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 (Saesneg) Dixon, Stephen (12 Mawrth 2005). Obituary: Dave Allen. The Guardian. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2012.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 (Saesneg) Dave Allen. The Daily Telegraph (12 Mawrth 2005). Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2012.
  4. (Saesneg) Dave Allen At Large. BBC. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2012.
  5. (Saesneg) Dave Allen's comic quotes. BBC (11 Mawrth 2005). Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2012.
  6. (Saesneg) Tributes paid to comic Dave Allen. BBC (11 Mawrth 2005). Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2012.