Dave Morgan (codwr pwysau)

Codwr pwysau Cymreig yw Dave Morgan (ganwyd 1964).

Dave Morgan
Ganwyd30 Medi 1964 Edit this on Wikidata
Caergrawnt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcodwr pwysau Edit this on Wikidata
Taldra172 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau82 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Enillodd bencampwriaeth o dan-16 Prydain ym 1979. Yn 17 oed, daeth yn bencampwr codi pwysau ieuengaf erioed Gemau'r Gymanwlad ym 1982 yn Brisbane. Cododd 132.5 kg yn y cipiad a 162.5 kg yn y glanhau a plycio yn y dosbarth pwysau ysgafn (67.5 kg), gan orchfygu'r cyn-bencampwr Basil (Bill) Stellios o Awstralia. Morgan yw'r unig gystadlydd sydd wedi ennill medalau mewn chwe Gemau'r Gymanwlad, gyda buddugoliaethau ym 1982, 1986, 1990, 1994, 1998, a 2002. Enillodd ddau fedal aur ac un arian yn 2002 ym Manceinion (gyda 145 kg yn y cipiad a 160 kg yn y glanhau a plycio), tri medal arian oedd ganddo i gychwyn ond dyrchafwyd dau o'r rhain i aur wedi i Satheesha Rai gael ei anghymwyso am roi prawf cyffuriau positif.[1][2] Daeth hyn a chyfanswm medalau Gemau'r Gymanwlad ei yrfa i ddeuddeg (naw aur a thri arian).

Cwblhaodd Morgan ei gipiad gorau ym Mhencampwriaethau Iau y Byd 1984, gan godi 150 kg a enillodd y fedal aur yn y dosbarth 75 kg. Aeth ymlaen i orffen yn ail gyda chodiad o 180 kg yn y glanhau a phlycio. Dyma oedd y tro cyntaf mewn 27 mlynedd i godwr pwysau Prydeinig ennill medal aur mewn pencampwriaeth y byd.

Gorffennodd Morgan yn bedwerydd yng Ngemau Olympaidd 1984. Yng Ngemau Olympaidd 1988 yn Seoul, cystadlodd Morgan yn y dosbarth 82.5 kg gan orffen yn bedwerydd unwaith eto gan godi 365 kg.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Morgan's golden bonus. BBC (22 Awst 2002).
  2.  Another Gold for Australia. Queensland Weightlifting Association (2 Awst 2002).
  3.  THE XXIVth SUMMER GAMES: WEIGHTLIFTING.

Dolenni allanol golygu