David Samwell

meddyg yn y llynges, a bardd (1751–1798)

Meddyg ac awdur o Gymro oedd David Samwell neu Dafydd Samwell (15 Hydref 1751 - 23 Tachwedd 1798), a adnabyddir yn Gymraeg fel Dafydd Ddu Feddyg.

David Samwell
FfugenwDafydd Ddu Feddyg Edit this on Wikidata
Ganwyd15 Hydref 1751 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw23 Tachwedd 1798 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllawfeddyg, bardd Edit this on Wikidata

Roedd yn un o wyrion y llenor Edward Samuel, gŵr o Benmorfa yn Edeirnion, a fu'n berson Llangar, Sir Feirionnydd, o 1721 tan 1748. Cafodd ei eni yn Nantglyn, Sir Ddinbych, yn 1751.

Graddiodd yn feddyg ac aeth ar drydedd fordaith y Capten James Cook ar fwrdd y Discovery yn 1776-79. Bu'n dyst i ladd Cook ar un o ynysoedd Hawaii a chyhoeddodd yr hanes yn ei lyfr A Narrative of the Death of Captain James Cook ar ôl dychwelyd. Cadwodd ddyddiadur hefyd, sy'n cael ei ystyried yn waith arloesol ym maes anthropoleg.

Bu gan Samwell ran flaenllaw ym mywyd diwylliannol Cymry Llundain. Ymhlith ei gyhoeddiadau ceir y gerdd 'The Padouca Hunt', sy'n ymwneud â'r traddodiad fod Madog ab Owain Gwynedd wedi sefydlu gwladfa Gymreig yng ngogledd America. Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas y Gwyneddigion ac yn aelod o'r Caradogion hefyd. Ymhlith ei gydnabod oedd Iolo Morgannwg a'r Gwallter Mechain ifanc. Cynorthwyodd Iolo Morgannwg i sefydlu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.

Bu farw Samwell yn 1798 a chafodd ei gladdu ym mynwent Eglwys St Andrews, Holborn, yn Llundain, ger Ysgol Gymraeg Llundain.

Llyfryddiaeth golygu

Llyfrau Samwell golygu

  • A Narrative of the Death of Captain James Cook (Llundain, 1786; ail-gyhoeddwyd fel Captain Cook and Hawaii yn 1957)
  • Some Account of a Voyage to South Seas 1776-1777-1778 (dyddiadur anghyhoeddedig, yn y Llyfrgell Brydeinig)
  • The Padouca Hunt (1799). Ysgrifennwyd yn 1791.

Bywgraffiad golygu

  • E. G. Bowen, David Samwell (Cyfres Gŵyl Dewi, 1974)