Digrifwr, llenor a chyfrannydd radio Americanaidd yw David Sedaris (ganed 26 Rhagfyr 1956), sydd wedi cael ei nomineiddio ar gyfer Gwobr Grammy.

David Sedaris
Geni David Sedaris
(1956-12-26) 26 Rhagfyr 1956 (67 oed)
Binghamton, Efrog Newydd
Galwedigaeth Digrifwr, llenor a chyfrannydd radio
Dinasyddiaeth Baner UDA UDA
Dylanwad Lorrie Moore, Alice Munro, Flannery O'Connor, Tobias Wolff, Richard Yates, Kurt Vonnegut[1]
Llofnod

Mae Sedaris wedi cael ei ddisgrifio fel 'seren roc y llenorion'. Cafodd ei gydnabod yn gyhoeddus am y tro cyntaf ym 1992, pan ddarlledodd National Public Radio ei draethawd "SantaLand Diaries". Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o draethodau a straeon byrion, Barrel Fever, ym 1994. Mae'r pum casgliad a olynodd, Naked (1997), Holidays on Ice (1997), Me Talk Pretty One Day (2000), Dress Your Family in Corduroy and Denim (2004), a When You Are Engulfed in Flames (2008), wedi dod yn werthwyr gorau ar restr y New York Times.[2][3][4][5][6] Yn 2010, rhyddhaodd gasgliad arall o straeon, Squirrel Seeks Chipmunk: A Modest Bestiary.[7][8][9]

Hyd 2008, roedd ei lyfrau wedi gwerthu dros 7 miliwn copi ar y cyd.[10] Mae'r rhan helaeth o hiwmor Sedaris yn hunangofianol ac yn hunan-anghymeradwyo, ac ym aml yn ymwneud â'i deulu, ei fagwriaeth dosbarth canol ym maestrefi Raleigh, Gogledd Carolina, ei drefdataeth Groegaidd, amryw o swyddi, addysg, defnydd cyffuriau, gwrywgydiaeth, ei fywyd yn Ffrainc, ac yn ddiweddarach yn Llundain a'r Twyni Deheuol, gyda'i bartner, Hugh Hamrick.

Gweithiau golygu

Casgliadau o straeon a thraethodau golygu

Erthyglau golygu

The New Yorker golygu

Mae wedi cyfrannu born 40 traethawd i gylchgrawn a blog The New Yorker,[11] gan gynnwys:

Eraill/Heb eu cyhoeddi golygu

  • "I Brake for Traditional Marriage", 2010
  • "The Poo Corner"

Recordiadau clywedol golygu

Penodau This American Life gyda Sedaris[12] golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Sedaris, David. "Introduction" to Sedaris, David, gol. Children Playing Before a Statue of Hercules. New York: Simon & Schuster, 2005. ISBN 0-7432-7394-X. tud. 1-7.
  2.  BEST SELLERS: April 6, 1997. The New York Times (1997-04-06). Adalwyd ar 2007-10-07.
  3.  PAPERBACK BEST SELLERS: December 22, 2002. The New York Times (2002-12-22). Adalwyd ar 2007-10-07.
  4.  BEST SELLERS: June 11, 2000. The New York Times (2000-06-11). Adalwyd ar 2007-10-07.
  5.  BEST SELLERS: June 20, 2004. The New York Times (2004-06-20). Adalwyd ar 2007-10-07.
  6.  BEST SELLERS: July 6, 2008. The New York Times (2008-07-06). Adalwyd ar 2008-07-01.
  7.  Greg Hambrick (2007-10-03). David Sedaris is Taking Notes. Charleston City Paper. Adalwyd ar 2007-10-07.
  8.  Mike Isaac (2007-09-20). David Sedaris announces new book release. Paste. Adalwyd ar 2007-01-08.
  9.  Releases worth a bookmark (8 Medi 2010). Adalwyd ar 2010-08-09.
  10.  Sarah Lyall (2008-06-08). What You Read Is What He Is, Sort Of. The New York Times. Adalwyd ar 2008-06-09.
  11.  Contributors - David Sedaris. The New Yorker. Adalwyd ar 2011-03-09.
  12. This American Life

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
 
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i: