Gwleidydd Prydeinig oedd William David Trimble, Barwn Trimble o Lisagarney (15 Hydref 194425 Gorffennaf 2022)[1] a fu'n arweinydd Plaid Unoliaethol Ulster rhwng 1995 a 2005. Roedd ei gefnogaeth i Gytundeb Belffast ("Cytundeb Gwener y Groglith") yn annerbyniol i lawer yn y blaid, a bu ymraniad. Daeth Trimble yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon yn y llywodraeth a sefydlwyd ar y cyd a'r cenedlaetholwyr dan y cytundeb rhannu grym, ond yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005, collodd yr UUP bump o'i chwe sedd yn San Steffan. Collodd Trimble ei hun ei sedd, ac ymddiswyddodd. Daeth Syr Reg Empey yn arweinydd y blaid yn ei le, ond collodd y blaid ei safle fel y brif blaid Unoliaethol i Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd.

David Trimble
LlaisDavid Trimble BBC Radio4 Great Lives 14 August 2007 b007vzrt.flac Edit this on Wikidata
Ganwyd15 Hydref 1944 Edit this on Wikidata
Belffast Edit this on Wikidata
Bu farw25 Gorffennaf 2022 Edit this on Wikidata
Belffast Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, academydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddLeader of the Ulster Unionist Party, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Member of the 2nd Northern Ireland Assembly, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Member of the 1st Northern Ireland Assembly, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol, Plaid Unoliaethol Ulster Edit this on Wikidata
TadWilliam Trimble Edit this on Wikidata
MamIvy Trimble Edit this on Wikidata
PriodDaphne Orr Edit this on Wikidata
PlantNicholas Trimble Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Heddwch Nobel Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.davidtrimble.org/ Edit this on Wikidata

Yn 1998 dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel iddo ef a John Hume o'r SDLP am eu cyfraniad i'r cytundeb heddwch yng Ngogledd Iwerddon.[2]

Ym mis Mehefin 2006, daeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi fel Barwn Trimble o Lisagarvey yn Swydd Antrim.[3] Yn Ebrill 2007, cyhoeddodd ei fod yn gadael yr UUP ac yn ymuno â Phlaid Geidwadol y DU.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Harold McCusker
Aelod Seneddol dros Upper Bann
19902005
Olynydd:
David Simpson
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Prif Weinidog Gogledd Iwerddon
19982001
Olynydd:
Reg Empey
(actio)
Rhagflaenydd:
Reg Empey
(actio)
Prif Weinidog Gogledd Iwerddon
20012002
Olynydd:
Dim
(o 2007 Ian Paisley)

Cyfeiriadau golygu

  1. David Trimble: Former Northern Ireland first minister and UUP leader dies (en) , BBC News, 25 Gorffennaf 2022.
  2. Peter Taggart (26 Gorffennaf 2022). "David Trimble, key architect of Good Friday Agreement, dies at 77". CNN (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2022.
  3. "Trimble to become Tory peer". Irish Times (yn Saesneg). 16 Ebrill 2007. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2022.