Cyflwynwraig ac actores Seisnig yw Davina Lucy Pascale McCall[1] (ganed 16 Hydref 1967), sydd fwyaf adnabyddus am ei gwaith ar y rhaglen deledu realiti Big Brother ar Sianel 4.

Davina McCall
Ganwyd16 Hydref 1967 Edit this on Wikidata
Wimbledon Edit this on Wikidata
Man preswylWadhurst Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ferched Godolphin a Latymer
  • Ysgol St Catherine's, Bramley Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, cyflwynydd teledu, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodMatthew Robertson Edit this on Wikidata
PerthnasauCélestin Hennion Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://thisisdavina.com/ Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd McCall yn Llundain,[1] yn ferch i Florence (née Hennion) ac Andrew McCall,[2] a phan oedd yn dair blwydd oed, aeth i fyw at ei mamgu a'i thadcu yn Surrey pan chwalodd priodas ei rhieni.[3] Dychwelodd ei mam, Florence, i'w gwlad genedigol, Ffrainc a gwelodd McCall hi pan ar wyliau'n unig. Mae McCall wedi ei disgrifio fel alcoholig a "plentyn gwyllt". Parhaodd i weld ei thad, Andrew, a oedd yn ddylunydd graffeg ar benwythnosau. Pan oedd McCall yn 13, aeth i fyw at ei thad a'i wraig newydd Gaby.[4]

Mynychodd McCall Ysgol Godolphin a Latymer i Ferched,[5] ysgol annibynnol enwog sydd a'i chyn-ddisgyblion yn cynnwys enwogion megis Nigella Lawson, Sophie Ellis-Bextor a Kate Beckinsale. Yn ystod ei harddegau, dioddefodd McCall o'r anhwylder bwyta anorecsia, salwch y mae McCall ei hun yn ei briodoli i'w phlentyndod ansefydlog a'i hangen am fwy o sylw. Pan oedd yn bymtheg oed a thra'n astudio ar gyfer naw lefel O ac yn ddiweddarach dau lefel A, canodd McCall yn broffesiynol gyda band; pan oedd yn 19 oed fodd bynnag, penderfynodd ei bod eisiau gweithio ar ei phen ei hun.

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd McCall yn canlyn gyda hen ffrind i'r teulu, Eric Clapton a gynhyrchodd ddisg demo iddi er mwyn ceisio ei chynorthwyo i mewn i fyd cerddoriaeth bop.[6][7] Am na ddaeth llwyddiant amlwg ym myd cerddoriaeth, rhoddodd McCall y gorau i gerddoriaeth a chymrodd waith gyda Models One yn bwcio swyddio ar ddesg y dynion. Ymddangosodd hefyd yn fideo pop Kylie Minogue, Word is Out, tra'n gwisgo beret a siwmpwr streipiog.

Yn ddiweddarach, bu'n rhedeg tŷ bwyta am ddwy flynedd ac yn gweithio fel gweinyddes a oedd yn canu ym Mharis. Fodd bynnag, ar ôl iddi fethu cael swydd yng nghlwb nos cabaret y Moulin Rouge, dychwelodd i Lundain lle daeth yn gymeriad adnabyddus ar y sîn clybio. Yn ystod y cyfnod hwn, a McCall yn ei hugeiniau cynnar, daeth yn gaeth i alcohol a chyffuriau, gan ddefnyddio llawer iawn o cocên, ecstasi a heroin.[2][8]

Bywyd Personol golygu

Ar ôl canlyn gyda Eric Clapton,[5] priododd McCall Andrew Leggett yn San Steffan ym 1997, ond ysgarodd y ddau yn fuan ar ôl hyn.

Yn 2000, yn Herefordshire, priododd Matthew Robertson, cyflwynydd cyfres deledu Pet Rescue, ac mae ganddynt dri o blant: Holly (ganed 22 Medi 2001, Hounslow), Tilly (ganed 23 Medi 2003, Surrey) a Chester (ganed 14 Medi 2006, Surrey).[9][10] Gwahanodd y cwpl yn Nhachwedd 2017.[11]. Roedd McCall yn feichiog yn ystod cyfresi 2, 4 a 7 Big Brother.

Dywedodd ar yr 31 Gorffennaf 2005 ar raglen deledu Top Gear ei bod wedi tyllu ei theth o'r blaen ond ei bod wedi cael gwared o'r gemwaith er mwyn bwydo o'r fron. Rhoddodd enedigaeth i'w phlant i gyd adref ac mae'n gefnogwraig brwd o enedigaethau cartref. Pan oedd Davina'n feichiog gyda'i thrydydd plentyn, recordiodd DVD cadw'n heini ar gyfer gwragedd beichiog. Mae wedi cynhyrchu sawl DVD ymarfer corff yngyd a'i hyfforddwyr personol, Mark and Jackie Wren, gan gynnwys Superbody Workout, High Energy Five, The Power of Three a My Three 30-Minute Workouts.

Roedd McCall wedi ei dieithrio o'i mam, a fu farw yn 2008. Mae McCall yn agos iawn i Caroline, hanner chwaer a chanlyniad o briodas cyntaf eu mam.[2]

Mae gan McCall gartref yn Wadhurst, Dwyrain Sussex.[12]

Mae McCall yn siarad Ffrangeg yn rhugl ac yn llwyrymwrthodwraig.[13]

Coeden deulu golygu

Ymddangosodd McCall ar raglen cyntaf 7fed cyfres Who Do You Think You Are? y BBC. Datgelwyd yn y rhaglen ei bod yn or-wyres i swyddog heddlu Ffrengig o nôd; Célestin Hennion (1862&ndash1915)[14] ac ar ochr ei thad yn or-or-or-wyres i James Thomas Bedborough (1787–1860), saer maen, cynghorwr, Maer, datblygwr tai, ac entrepreneur, a weithiodd ar Gastell Windsor a Pharc Upton.[2] Rhoddodd Pierre, mab Hennion a thaid McCall, fedal Royal Victorian Order Hennion iddi, a dangoswyd hwn ar y rhaglen.[2]

Yn y rhaglen, a ddarlledwyd am y tro cyntaf ar 15 Gorffennaf 2009, dysgodd McCall hanes Hennion gan y haneswyr Jean-Marc Berliere a Simon Kitson yn ogystal â chefnder mam McCall, wyres Hennion, sef Françoise Hennion. Wedi clywed sut y bu ei hen-thiad yn ymwneud â'r Achos Dreyfus, cyfarfodd hefyd â gor-wyres Alfred Dreyfus, Yael Ruiz.[2]

Gwaith golygu

Cyflwyno golygu

Actio golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  The Real McCall. The Guardian/Observer (2005-06-12).
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6  BBC Two Who Do You Think You Are?, Series 7, Davina McCall (2009-07-15).
  3.  Beth Hilton (2008-06-05). Ten Things You Never Knew About Davina McCall. Digital Spy.
  4.  David Jones (2007-06-23). Found: Davina McCall's tragic mum. Daily Mail.
  5. 5.0 5.1  Ciar Byrne (2005-12-07). Davina McCall's £1m deal makes her BBC's first female chat-show host. Independent.
  6. Davina McCall Profile Biogs.com
  7. Meet the Team - Davina McCall[dolen marw] BBC Parenting
  8. Davina McCall Profile Hello!
  9. Sun reports birth of Chester[dolen marw]
  10. "Marriages and Births England and Wales 1984-2006". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-04. Cyrchwyd 2009-08-05.
  11. Davina McCall separates from her husband of 17 years (en) , telegraph.co.uk, 26 Tachwedd 2017. Cyrchwyd ar 1 Chwefror 2017.
  12. "Big Brother's Davina McCall moves to Wadhurst". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-08. Cyrchwyd 2009-08-05.
  13. Gwefan Contactmusic
  14.  Who Do You Think You Are? - Davina McCall. The National Archives (2009-07-16).
  15. http://www.e4.com/deadset[dolen marw]