Deddf Llywodraeth Cymru 2006

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn Ddeddf Senedd y Deyrnas Unedig a ddiwygiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan alluogi rhoi mwy o bŵer i'r Cynulliad yn haws. Crea'r Ddeddf system lywodraethol sydd ar wahan ac yn atebol i'r ddeddfwriaeth.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006
Enghraifft o'r canlynolDeddf Gyhoeddus Gyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi2006 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Mae gan y Ddeddf y darpariaethau canlynol:

  • creu corff gweithredol - Llywodraeth Cymru - sydd ar wahan i'r corff deddfwriaethol, sef Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi newid o fod yn weithgor y Cynulliad Cenedlaethol i fod yn gorff penodol.
  • yn gwahardd ymgeiswyr rhag ceisio mewn etholaethau a bod ar restr rhanbarthol
  • yn darparu modd i'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol i ddosrannu pŵer o'r Senedd i'r Cynulliad, a rydd pŵerau i'r Cynulliad i greu "Mesurau (Cyfreithiau Cymreig). Disgrifia Atodlen 5 y meysydd lle mae gan y Cynulliad pŵer i greu mesurau
  • yn darparu refferendwm am fwy o bŵerau deddfwriaethol, a adwaenir fel "Deddfau'r Cynulliad"
  • creu sêl Cymreig a Gwarchodwr y Sêl Cymreig (Prif Weinidog Cymru)
  • creu Cronfa Gyfunol Cymru
  • creu swyddi Cwnsler Cyffredinol fel aelod o Lywodraeth Cynulliad Cymru a'i prif gynghorydd cyfreithiol
  • rhoi dyletswyddau newydd i'r Frenhines drwy apwyntio gweinidogion Cymreig a rhoi Cydsyniad Brenhinol i Ddeddfau'r Cynulliad.

Derbyniodd y mesur Gydsyniad Brenhinol ar 25 Gorffennaf 2006.

Atodlen 5 y Ddeddf golygu

Disgrifia Atodlen 5 y Ddeddf yr 20 "Maes" a "Mater" lle mae gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru bŵerau deddfwriaethol e.e. y gallu i basio Mesurau'r Cynulliad. Mae "Maes" yn bwnc eang e.e. addysg ac hyfforddiant; yr amgylchedd; iechyd a gwasanaethau iechyd; priffyrdd a thrafnidiaeth; tai. Mae "Mater" yn ardal polisi mwy penodol o fewn Maes. Gall y cynulliad gael mwy o bŵerau deddfwriaethol drwy ddiwygio Atodlen 5.

Gellir gwneud hyn mewn dwy ffordd: naill ai o ganlyniad i gymalau a gynhwysir mewn deddfwriaethau a basiwyd gan Ddeddf Seneddol yn San Steffan, neu drwy Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a roddir gan y Senedd mewn ymateb i gais wrth y Cynulliad Cenedlaethol ei hun. (Gall y Llwyodraeth Gymreig, aelodau unigol neu Bwyllgorau'r Cynulliad gynnog Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol; ond rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn y caiff ei brosesu). Canlyniad y dday ddull yw diwygio'r 20 "Maes" drwy fewnosod "Materion" penodol i mewn i bob "Maes". Rhydd hyn bŵer i'r Cynulliad i basio deddfwriaeth ar y Materion hynny.

Diweddarir Atodlen 5 yn rheolaidd o ganlyniad i'r ddau broses hyn. Ceir copi wedi'i ddiweddaru ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.[1]

Meysydd Atodlen 5 golygu

  • Maes 1: amaethyddiaeth, pysgota, fforestydd a datblygiad cefn gwlad
  • Maes 2: cofebau hynafol ac adeiladau hanesyddol
  • Maes 3: diwylliant
  • Maes 4: datblygiad economaidd
  • Maes 5: addysg ac hyfforddiant
  • Maes 6: yr amgylchedd
  • Maes 7: gwasanaethau tân ac achub a hyrwyddo diogelwch tân
  • Maes 8: bwyd
  • Maes 9: iechyd a gwasanaethau iechyd
  • Maes 10: priffyrdd a thrafnidiaeth
  • Maes 11: tai
  • Maes 12: llywodraeth leol
  • Maes 13: Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Maes 14: gweinyddiaeth gymdeithasol
  • Maes 15: lle cymdeithasol
  • Maes 16: chwaraeon ac hamdden
  • Maes 17: twristiaeth
  • Maes 18: cynllunio tref a gwlad
  • Maes 19: amddiffynfeydd dŵr a llifogydd
  • Maes 20: yr iaith Gymraeg

Cyfeiriadau golygu

  1. Deddf Llywodraeth Cymru 2006[dolen marw]. Gwefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd 09-08-2009

Dolenni allanol golygu