Nifer o demlau gerllaw Luxor yn yr Aifft yw Deir el-Bahari (Arabeg: دير البحري, "mynachlog y gogledd"). Yr enwocaf o'r temlau yw teml Hatshepsut o'r 18fed Brenhinllin.

Teml Hatshepsut.

Saif y temlau gerllaw hen ddinas Thebes. Y deml gyntaf i'w hadeiladu yma oedd teml Mentuhotep II o'r 11eg Brenhinllin. Cynlluniwyd teml ddiweddarach Hatshepsut, a elwid yn Dieser-Dieseru gam yr Eifftiaid, gan y pendaer brenhinol Senemut. Mae'n cynnwys nifer o derasau gyda cholofnau, ac fe'i ystyrir un un o gampweithiau pensaernïol yr Hen Aifft. Yn 1961, cafwyd hyd i deml wedi ei hadeiladu gan Thutmosis III gerllaw.

Mae'r safle yn un o atyniadau twristaidd pwysicaf yr Aifft. Ar 17 Tachwedd 1997, ymosodwyd ar dwristiad yn ymweld a'r safle yma gan Al-Gama'a al-Islamiyya, gan ladd 58 o dwristiaid a phedwar Eifftiwr.