Delta, Pennsylvania

Mae Delta yn fwrdeistref yn York County, yn nhalaith Pennsylvania, Unol Daleithiau America, ac yn un o gymunedau mwyaf deheuol ym Mhennsylvania. Mae'n ffinio â Cardiff, Maryland sydd i'r de iddi. Roedd y boblogaeth yn 728 yn ôl cyfrifiad 2010.[1]

Delta, Pennsylvania
Mathbwrdeistref Pennsylvania Edit this on Wikidata
Poblogaeth707 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1744 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYork County Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd0.26 mi², 0.678349 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr627 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39.7272°N 76.3256°W Edit this on Wikidata
Cod post17314 Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

Lleolir Delta yng nghanol Rhanbarth Llechi Peach Bottom. Agorwyd chwareli llechi yn Delta yn y 1840au, wrth i chwarelwyr gyrraedd o Gymru. Yn Arddangosfa Crystal Palace 1850, barnwyd mai llechi Peach Bottom oedd y gorau yn y byd. Mae'r rhan fwyaf o dai Delta yn dal i fod a thoeau llechi, ac mae gweddillion y palmentydd llechi glas-ddu gwreiddiol yn dal i fodoli ar draws y fwrdeistref .

Daeth Rheilffordd Peach Bottom i Delta yn 1876, gan gludo llechi ar hyd ei llinell i Red Lion a York. O'r de cyrhaeddodd y Maryland Central Railroad yn Delta yn 1883 a dechreuodd trenau redeg o Delta i Bel Air, Maryland a Baltimore yn 1884. Cafodd y ddwy linell eu holynu yn ddiweddarach gan y Maryland and Pennsylvania Railroad, a oedd yn weithredol tan 1978. Roedd y chwarel lechi yn gwsmer pwysig i’r gwasanaeth cludo nwyddau hyd at 1971.

Ardal Hanesyddol golygu

Rhestrwyd Ardal Hanesyddol Delta ar y Gofrestr Genedlaethol o Leodd Hanesyddol yn 1983.

Cysylltiad â Chymru golygu

 
Capel Cymraeg Rehoboth

Capel Rehoboth golygu

Mae Capel Cymraeg Rehoboth yn Delta yn eglwys Gristnogol anenwadol sy'n cynnal gwasanaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg.[2] Cynhelir gwersi Cymraeg gan y capel.[3] Mae ei chôr Cymraeg wedi ennill gwobr wrth gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Mynwent Slateville golygu

Ym mynwent Eglwys Brebysteriadd Slatville, sydd i'r gogledd ddwyrain o Delta, fe gladdwyd nifer o'r mewnfydwyr o Gymru gyda nifer o cerrig beddau gyda'r Gymraeg arnynt yn unig.[4] Mae'r enwau lleodd canlynol o Gymru yn ymddangos arnynt: Bangor, Beddgelert, Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Bryncrug, Caernarfon, Clwt y Bont, Coed Mawr, Corris, Ogwen, Dinorwig, Dowlais, Ebenezer, Ffestiniog, Llanllechid, Llanberis, Llanddeiniolen, Llanrug, Pennal, Penrhyndeudraeth, Pentrefoelas, Sir Gaerfyrddin, Tyn y Maes, Waunfawr, Bwlch Uchaf, Nant Uchaf a Nant y Graean.

 
Un o fythynod chwarelwyr Coulsontown

Bythynnod chwarelwyr Coulsontown golygu

Tua tri chwarter milltir i'r dwyrain o Delta ceir Coulsontown, lle saif pedwar bwthyn sydd wedi eu hadeiladu yn arddull bythynnod chwarelwyr a geir yng Nghymru.[5] Yn 2006 fe brynwyd dau ohonynt gan yr Old Line Museum ac mae'nt yn cael eu hadfer i'w cyflwr gwreiddiol ac ar agor i'r cyhoedd.[6]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Race, Hispanic or Latino, Age, and Housing Occupancy: 2010 Census Redistricting Data (Public Law 94-171) Summary File (QT-PL), Delta borough, Pennsylvania". U.S. Census Bureau, American FactFinder 2. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2013.
  2. Rehoboth Welsh Chapel Archifwyd 2014-09-13 yn y Peiriant Wayback. ar wefan Delta Welsh Heritage
  3. "Gwefan Capel Rehoboth". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-02. Cyrchwyd 2013-11-27.
  4. Slateville Cemetery Archifwyd 2014-09-14 yn y Peiriant Wayback. ar wefan Delta Welsh Heritage
  5. ""National Historic Landmarks & National Register of Historic Places in Pennsylvania"". CRGIS: Cultural Resources Geographic Information System. Archifwyd o'r gwreiddiol (Searchable database) ar 2007-07-21. Cyrchwyd 2014-01-03. Note: This includes Thomas L. Schaefer and Jay R. Barshinger (Mehefin 1984). "National Register of Historic Places Inventory Nomination Form: Coulsontown Cottages Historic District" (PDF). Cyrchwyd 2011-12-21.[dolen marw]
  6. Quarrymen's Cottages Archifwyd 2014-09-13 yn y Peiriant Wayback. ar wefan Delta Welsh Heritage

Dolenni allanol golygu