Delweddu cyseiniant magnetig

Techneg i ddelweddu y tu fewn i'r corff yw delweddu cyseiniant magnetig (Saesneg: Magnetic Resonance Imaging, MRI). Yn fras, mae MRI yn canfod signal oddi wrth brotonau Hydrogen (tu fewn i folecylau ddŵr yn bennaf) ac o'r signal hwn yn gallu creu delweddau i ddangos gwahaniaethau mewn amryw o briodweddau'r meinwe sy'n allyrru'r signal. Mae nifer o ffactorau yn effeithio ar y signal MRI, er enghraifft; y nifer o brotonau, priodweddau magnetig y meinwe, llif a thrylediad. O ganlyniad, gall y ddelwedd MRI gael ei addasu i ddangos y briodwedd(au) o ddiddordeb.

Delweddu cyseiniant magnetig
Enghraifft o'r canlynolprawf meddygol Edit this on Wikidata
Mathdelweddu meddygol, non-invasive imaging Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae gan brotonau foment magnetig, felly wrth i’r corff cael ei osod tu fewn i faes magnetig y sganiwr, mae’r protonau yn cyfunioni gyda’r maes magnetig. Gallent gyfunioni mewn cyflwr egni uchel (gyferbyn a chyfeiriad y maes magnetig), neu gyflwr egni isel (yr un cyfeiriad a’r maes magnetig). Mae hyn yn sefydlu cyseiniant ym mhrotonau’r corff - h.y. gall donnau radio, o amledd arbennig, ysgogi’r protonau o gyflwr egni isel i gyflwr egni uchel. Wrth iddynt ddisgyn nôl i gyflwr egni isel, maent yn allyrru signal, ac (o dan yr amodau cywir) mae’r signal yma yn cynnwys gwybodaeth am leoliad y signal o fewn y sganiwr, a phriodweddau’r meinwe sy’n cynnwys y protonau (e.e. hylif/solid, llifo/sefydlog, ac yn y blaen). Thrwy ddadansoddi’r signal yma, gellir ffurfio delweddau manwl o du fewn i’r corff.

Delwedd cyseiniant magnetig o'r pen-glin.
Sganiwr cyseiniant magnetig yn Gothenburg, Sweden.
Delwedd cyseiniant magnetig o'r Pen.

Manteision golygu

 


Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Nid yw'r peiriannau yn defnyddio pelydriadau sy'n ïoneiddio fel peiriannau pelydr-x a sganwyr CT. Mae hyn yn golygu maent yn ddiogel i'w defnyddio ac nid oes ots faint o ddos mae claf yn derbyn. Maent hefyd yn dangos adeileddau meinweoedd meddal megis organau'r corff yn dda.

Anfanteision golygu

Mae'r peiriannau yn gostus iawn ac os nad ydy cyflwr claf yn ddifrifol, gall yr amser aros am sgan fod yn hir. Mae'r cyfuniad o fod mewn tiwb caeedig gyda'r sŵn uchel sy'n cael ei greu, wneud i rai teimlo'n clawstroffobig iawn.