Demograffeg Sbaen

Demograffeg Sbaen yw'r astudiaeth o niferoedd a nodweddion poblogaeth Sbaen. Ar 1 Ionawr 2008, roedd poblogaeth Sbaen yn 46,063,511 yn ôl yr Instituto Nacional de Estadística (INE). Sbaen yw'r bumed wlad yn yr Undeb Ewropeaidd o ran poblogaeth, ond mae dwysder y boblogaeth yn gymharol isel, 91.2 person/km sgwar.

Newid ym mhoblogaeth Sbaen rhwng 1981 a 2005. Coch ac oren - cynnydd; glas - gostyngiad.

Fel llawer o wledydd Ewrop, mae'r boblogaeth yn tueddu i heneddio; yn 2006 roedd cyfartaledd oedran trigolion Sbaen yn 40.2. Roedd 14.3% o'r boblogaeth dan 15 oed, 69,0% rhwng 15 a 64, a 16.7% dros 65. I raddau, mae mewnfudiad wedi gwrthweithio'r duedd yma. Yn 2005, roedd disgwyliad bywyd yn Sbaen yn 80.2 ar gyfartaledd; 77.0 i ddynion a 83.5 i ferched.

Mae dwysder y boblogaeth yn uwch o gwmpas yr arfordir ac o amgylch Madrid. Yng nghanol y wlad, mae diboblogi yn broblem yn yr ardaloedd gwledig.

Dinasoedd golygu

Yr ardaloedd dinesig mwyaf o ran poblogaeth yw:

Poblogaeth Ynysoedd Sbaen golygu

Yr ynysoedd gyda'r boblogaeth fwyaf yw:

Yn ôl cyfrifiad 2006, roedd 9.27 o boblogaeth Sbaen yn dramorwyr. Roedd y mwyafrif o America Ladin (36.21%), Gorllewin Ewrop (21.06%), Dwyrain Ewrop (17.75%) a'r Magreb (14.76%).

Crefydd golygu