Devanāgarī (Sansgrit : देवनागरी) yw'r wyddor a ddefnyddir i ysgrifennu Sansgrit, Hindi, Nepaleg, Marathi a sawl iaith Indiaidd arall. Mae'n un o brif wyddorau India a Nepal.

Devanāgarī
Enghraifft o'r canlynolabugida, unicase alphabet, sgript naturiol Edit this on Wikidata
MathBrahmic scripts Edit this on Wikidata
GwladIndia Edit this on Wikidata
IaithPrakrit, Awadhi, Bhili, Bhojpuri, Bodo, Braj Bhasha, Chhattisgarhi, Dogri, Gwjarati, Haryanvi, Hindi, Hindwstaneg, Kashmireg, Konkaneg, Magahi, Maithili, Marathi, Marwari, Mundari, Newar, Nepaleg, Pali, Pwnjabeg, Rajasthani, Nagpuri, Sansgrit, Santali, Saraiki, Sherpa, Sindhi, Surjapuri, Angika, Hindi Ffiji, Gondi, Kurukh, Saurashtra Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu11 g Edit this on Wikidata
Yn cynnwysDevanagari letter Edit this on Wikidata
Enw brodorolदेवनागरी Edit this on Wikidata
RhanbarthIndia, Nepal, Ffiji Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llawysgrif o'r Rig Veda mewn devanāgarī (dechrau'r 19g)

Hanes golygu

Fel yn achos y mwyafrif o'r ieithoedd Indiaidd, mae'r devanāgarī yn tarddu o'r wyddor Brahmi. Wrth gynrychioli devanagari mewn llythrennau Rhufeinig defnyddir trawslythreniad IAST (sef Gupta).

Gellir olrhain datblygiad y devanagari i o gwmpas y 12g, yn ôl pob tebyg fel addasiad o'r wyddor Siddham. Yn raddol, disodlodd devanagari yr wyddor Sharda mewn rhan helaeth o ogledd isgyfandir India.

Erbyn heddiw, y devanāgarī yw un o'r gwyddorau mwyaf cyffredin yn India, yn arbennig gan ei bod yn cael ei defnyddio i ysgrifennu Hindi, iaith fwyaf India o bell ffordd, prif iaith swyddogol India. Yn yr un modd ysgrifennir Nepaleg, iaith swyddogol Nepal, mewn devangari. Mae ieithoedd mawr eraill sy'n ei defnyddio yn cynnwys Marathi a Sindhi. Yn ogystal fe'i denfyddir yn draddodiadol i ysgrifennu Sansgrit.

Ymhlith yr ieithoedd llai sy'n denfyddio devanagari ceir : Bihari, Bhili, Konkani, Bhojpuri, a Nepalbhasa. Weithiau mae Cashmireg yn defnyddio'r wyddor hefyd, er mai amrywiad ar y wyddor Arabeg a ddefnyddir fel rheol.

Geirdarddiad golygu

Mae'r gair devanāgarī, sy'n tarddu o'r iaith Sansgrit, yn gyfansoddedig o :

  • deva (देव) : dwyfol ;[1]
  • nāgarī (नागरी) : ffurf fenywaidd ar nāgara (नागर), 'dinas', hefyd 'rhywun sy'n byw mewn dinas'.[2]

Ystyr y gair devanagari felly yw (ysgrifen) 'y ddinas dwyfol'; neu, yn llai llythrennol 'ysgrifen dinas y duwiau'. Weithiau talfyrir yr enw yn nāgarī.

Enghraifft golygu

Testun devanāgarī (iaith Hindi)
सभी मनुष्यों को गौरव और अधिकारों के मामले में जन्मजात स्वतन्त्रता और समानता प्राप्त है। उन्हें बुद्धि और अन्तरात्मा की देन है और परस्पर उन्हें भाईचारे के भाव से बर्ताव करना चाहिये।
Trawslythreniad Lladin
Sabhī manuṣyõ ko gaurav aur adhikārõ ke mamle mẽ janmajāt svatantrātā aur samāntā prāpt hai. Unhẽ buddhi aur antrātmā kī den hai aur parspar unhẽ bhaīcāre ke bhāv se bartāv karnā cāhiye.
Cyfieithiad
Genir pob bod dynol yn rhydd a chyfartal mewn urddas a hawliau. Fe'u cynhysgir â synnwyr ac ymwybyddiaeth ac fe ddylent ymddwyn wrth ei gilydd mewn ysbryd brawdgarwch.

Cyfeiriadau golygu