Diaffram y thoracs

Haenen denau o gyhyr ydyw diaffram (mewn anatomeg) a cheir ambell un yn y corff gan gynnwys y llengig (diaffram y thoracs), sef y prif ddiaffram, sy'n hanfodol i resbiradu. Mae gan famaliaid, amffibiaid ac ymlusgiaid lengig er bod ei leoliad a lleoliad yr ysgyfaint yn gwahaniaethu'n fawr. Fe'i cysylltir i'r cyhyrau a'r meinwe cysylltiol.

Diaffram y thoracs
Diagram allan o Gray's Anatomy o'r llengig dynol, gan ddangos y gwahanol agoriadau
Enghraifft o'r canlynolmath o organ cyhyrhyrol unigol, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathcyhyr y thoracs, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ei bwrpas golygu

Mae'r llengig yn hanfodol i'r weithred o anadlu. Pan rydym yn tynnu gwynt i mewn i'r ysgyfaint, mae'r llengig yn tynhau, sy'n chwyddo'r gwacter thorasig. Mae'r pwysedd mewnthorasig, felly, yn lleihau. Mae chwyddo'r gwacter hwn yn creu sugnedd (suction) sydd yn ei dro'n tynnu aer i mewn i'r ysgyfaint. Pan fo'r llengig yn ymlacio, mae'r aer yn cael ei ddanfon allan o'r ysgyfaint.

Does a wnelo'r llengig fawr ddim â'r llais dynol (yn groes i'r hyn mae llawer o athrawon canu yn ei gredu!) gan mai rheoli'r cyhyrau abdomenol a rhyngasennol ydym wrth ganu neu siarad. Does gan y llengig ddim llawer o nerfau, felly ni fedrwn ei reoli. Ond o hyfforddiant cywir, ymarfer trwyadl, osgo a.y.b., gallwn ddefnyddio'r llengig (ar y cyd â strwythurau eraill) i gynorthwyo'r llais.

Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i'n cynorthwyo i chwydu, ysgarthu a phiso drwy gryfhau'r pwysedd mewnabdomenol.

Cyfeiriadau golygu