Diamonds Are Forever (ffilm)

ffilm acsiwn, llawn cyffro a ffilm am ysbïwyr gan Guy Hamilton a gyhoeddwyd yn 1971

Y seithfed ffilm yng nghyfres James Bond yw Diamonds Are Forever (1971), a dyma'r chweched ffilm (a'r un olaf) i Sean Connery chwarae rhan yr asiant i MI6. Seiliwyd y ffilm ar nofel Ian Fleming o 1956 o'r un enw, a dyma'r ail o bedair ffilm James Bond i gael ei gyfarwyddo gan Guy Hamilton. Yn y stori, mae Bond yn esgus bod yn smyglwr diemyntau er mwyn casglu gwybodaeth am griw o smyglwyr. Yn fuan darganfydda Bond gynllwyn gan ei hen-elyn Blofeld i ddefnyddio'r diemyntau ac i adeiladu lloerenn laser enfawr a fyddai'n cael ei ddefnyddio er mwyn dal y byd yn wystl.

Diamonds Are Forever

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Guy Hamilton
Cynhyrchydd Harry Saltzman
Albert R. Broccoli
Ysgrifennwr Richard Maibaum
Tom Mankiewicz
(sgript)
Ian Fleming (nofel)
Serennu Sean Connery
Charles Gray
Jill St. John
Cerddoriaeth John Barry
Sinematograffeg Ted Moore
Golygydd Bert Bates
John Holmes
Dylunio
Cwmni cynhyrchu United Artists
Amser rhedeg 115 munud
Gwlad Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg
(Saesneg) Proffil IMDb

Roedd Diamonds Are Forever yn llwyddiant masnachol, ond cymysg fu ymateb y beirniaid i'r naws dychanol a doniol a geir yn y ffilm.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm ysbïo. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.