Dietrich Bonhoeffer

Diwinydd Lutheraidd ac awdur Almaenig oedd Dietrich Bonhoeffer (4 Chwefror 1906 - 9 Ebrill 1945).

Dietrich Bonhoeffer
Ganwyd4 Chwefror 1906 Edit this on Wikidata
Wrocław Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ebrill 1945 Edit this on Wikidata
Flossenbürg concentration camp Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdiwinydd, athronydd, gwrthryfelwr milwrol, bardd, person Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Prif ddylanwadReinhold Niebuhr Edit this on Wikidata
TadKarl Bonhoeffer Edit this on Wikidata
MamPaula Bonhoeffer Edit this on Wikidata
PartnerMaria von Wedemeyer Edit this on Wikidata
LlinachBonhoeffer family Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Dewrder Sifiliaid Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.dbonhoeffer.org/ Edit this on Wikidata

Ganed Bonhoeffer yn ninas Breslau (Wroclaw yng Ngwlad Pwyl heddiw). Astudiodd ym Merlin (1924-1927) ac Efrog Newydd (1930). Datblygodd y syniad fod rhaid i'r eglwys fod yn sanctorum communio, cymuned o'r saint. Bu'n weinidog yn Llundain yn 1933 a 1934. Wedi dychwelyd i'r Almaen, datblygodd i fod yn wrthwynebydd i Natsïaeth, a bu ganddo ran yn y cynllun gan swyddogion y fyddin ac eraill i ladd Adolf Hitler. Cymerwyd ef i'r ddalfa yn Ebrill 1943, wedi i'r awdurdodau ddarganfod ei fod yn darparu arian i alluogi Iddewon i ddianc i'r Swistir. Wedi'r ymdrech aflwyddiannus i ladd Hitler ar 20 Gorffennaf 1944, darganfuwyd ei gysylltiadau a'r cynllun, a dedfrydwyd ef i farwolaeth. Dienyddiwyd ef yng ngwersyll carchar Flossenbürg.

Llyfryddiaeth golygu

  • Harri Williams, Bonhoeffer, Y Meddwl Modern (Gwasg Gee, 1981)