Bryn yn nwyrain Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Din Gwrygon (Saesneg: The Wrekin). Saif rhwng trefi Amwythig i'r gorllewin a Telford i'r dwyrain. Ei uchder yw 407m.

Din Gwrygon
Mathmynydd, coedwig frenhinol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Uwch y môr1,335 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.6684°N 2.5515°W Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd978 troedfedd Edit this on Wikidata
Rhiant gopaKinder Scout Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddShropshire Hills Edit this on Wikidata
Map

Ceir bryngaer Geltaidd 8 hectar ar ei gopa. Mae ar diriogaeth llwyth y Cornovii ac mae rhai archaeolegwyr wedi dadlau ei bod yn "brifddinas" i'r llwyth. Ei enw gwreiddiol oedd Uriconio neu Uriconion ym Mrythoneg, sy'n rhoi 'Gwrygon' yn Gymraeg a 'Wrekin' yn Saesneg. Credir iddi roi ei henw i ddinas Rufeinig Viroconium Cornovium, prifddinas y Cornovii yn y cyfnod Rhufeinig, tua 5 milltir i'r gorllewin (safle Wroxeter heddiw).

Mae rhai ysgolheigion yn cynnig Din Gwrygon fel lleoliad Pengwern, llys brenhinoedd cynnar teyrnas Powys, ond does dim sicrwydd am hynny (posiblrwydd arall yw safle tref Yr Amwythig heddiw).

Enw arall ar Din Gwrygon yng nghyfnod y Normaniaid oedd 'Mont Gilbert', ar ôl meudwy a aeth i fyw ar ei gopa.

Din Gwrygon o'r gogledd

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.