Diplomyddiaeth ping-pong

Cyfnewid chwaraewyr tenis bwrdd, neu ping-pong, rhwng Gweriniaeth Pobl Tsieina a'r Unol Daleithiau oedd diplomyddiaeth ping-pong yn y 1970au. Nododd cyfnod o nesâd rhwng y ddwy wlad a arweiniodd at daith yr Arlywydd Nixon i Tsieina ym 1972.

Diplomyddiaeth ping-pong
Enghraifft o'r canlynoldull Edit this on Wikidata
Mathdiplomyddiaeth Edit this on Wikidata

Penderfynodd y Cadeirydd Mao i wahodd tîm tenis bwrdd yr Unol Daleithiau i'w wlad wedi iddo darllen am gyfarfod cyfeillgar rhwng y chwaraewr Tsieineaidd Zhuang Zedong a'r chwaraewr Americanaidd Glenn Cowan yn ystod yr 31ain Bencampwriaeth Tenis Bwrdd y Byd yn Japan. Ar 10 Ebrill 1971 daeth naw chwaraewr Americanaidd, pedwar swyddog, a ddau briod i Tsieina a threulion hyd 17 Ebrill yn chwarae gemau a theithio o amgylch y wlad.

Cafodd diplomyddiaeth ping-pong ei dramateiddio yn y llyfr a'r ffilm Forrest Gump.