Mudiad ysgolion Llydaweg yn Llydaw yw Diwan (/ˈdiwɑ̃n/ "hedyn"). Gweithreda y tu allan i gyfundrefn addysgol ganolog Ffrainc am fod Diwan yn dysgu'n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Llydaweg. Maent felly yn gorfod codi llawer o'u harian eu hunain, er eu bod yn derbyn rhywfaint o arian cyhoeddus.[1] Diwan rhan o rwydwaith Eskolim gydag ysgolion trwytho mewn gwledydd eraill sy'n rhan o wladwriaeth Ffrainc, sef Seaska (rhwydwaith ysgolion Ikastola) yng Ngwlad y Basg, Calandreta yn Ocsitania, ABCM-Zweisprachigkeit yn Alsace, La Bressola yn Ngwledydd Catalwnia a Scola Corsa yn Nghorsica.

Diwan
Enghraifft o'r canlynolsefydliad addysgol Edit this on Wikidata
Mathysgol Edit this on Wikidata
Rhan oeducation in France Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1977 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifCentre for Breton and Celtic Research Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.diwan.bzh Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo Diwan
Arwyddlun Skol Diwan Gwened

Hanes golygu

Crëwyd yr ysgol Diwan gyntaf yn Lambaol-Gwitalmeze (Ffrangeg Lampaul-Ploudalmézeau) ger Brest, yn 1977, o ganlyniad i'r galw am addysg trwy gyfrwng yr iaith. Roedd hyn wedi rhai blynyddoedd o adfywiad gwleidyddol o du y Lydaweg gan fudiadau fel Skol an Emsav ac eraill.

Mae'r ysgolion yn trochi'r plant yn yr iaith, yn debyg i ysgolion penodedig Cymraeg, ac roedd 2,200 o ddisgyblion yn mynd i ysgolion Diwan ar draws Llydaw yn 2005. Agorodd yr ysgol Diwan gyntaf ym Mharis ym mis Medi 2004. Erbyn Medi 2012 roedd ffigyrau a gyhoeddwyd yn "le Telegramme-Finisterre" yn dangos bod 14.709 yn derbyn addysg dwyieithog Llydaweg-Ffrangeg; rhyw 3.625 ohonynt efo ysgolion Diwan; 6.260 efo Div Yezh (dan y llywodraeth); a 4.824 efo Dihun (ysgolion Catholig), mae hyn yn golygu y bu cynnydd o 35% dros gyfnod o dair blynedd. Erbyn 2021, roedd tua 19,000 sef oddeutu 2% o blant Llydaw yn derbyn addysg ddwyieithog neu Llydaweg, ond dim ond tua 4,000 o'r rheini mewn ysgolion Diwan.[1]

Dyddiadau golygu

Ebrill 1977: creu sefydliad Diwan; Gweltaz ar Fur oedd y cadeirydd. Mai 1977: y dosbarth cynradd cyntaf, gyda 5 plentyn yn Lambaol-Gwitalmeze; Denez Abernot oedd yr ysgolfeistr. Medi 1977: Agor ysgol gynradd Diwan Kemper. Medi 1980: Agor dosbarth blwyddyn un yn Treglonoù. Medi 1988: Agor y skolaj (ysgol ganol) Diwan gyntaf ym Mrest gyda 8 disgybl blwyddyn 6. Dwy flynedd yn ddiweddarach, symudodd yr ysgol i'r Releg-Kerhuon. Medi 1994: Agor lise (ysgol uwchradd) Diwan am y tro cyntaf yn y Releg-Kerhuon. Medi 1995: Creu ail skolaj (ysgol ganol) yn Plijidi yn Aodoù-an-Arvor. Agorodd dwy arall yn fuan wedyn, un yn Kemper a'r llall yn Plañvour, a symudodd i Gwened wedyn. Symudwyd dosbarthiadau o Treglonoù i Gwiseni. 1997: Trydedd lise Diwan yn Karaez-Plougêr. Medi 2006: Agor ysgolion yn Louaneg ac yn y Chapel-Nevez. Symudwyd rhai o ddosbarthiadau Skolaj ar Releg-Kerhuon i Gwiseni. Hydref 2007: Agor Ysgol Diwan Kastellin. Medi 2008: Agor Skolaj Diwan al Liger-Atlantel yn Sant-Ervlan ac ysgolion Lokournan-Leon a Magoer ar gyrion Roazhon. Medi 2009: Agor ysgolion Rianteg ym Mro-Wened a Savenneg ym Mro-Naoned. Chwefror 2010: Creu Roc'h Diwan, sefydliad sy'n berchen ar adeiladau'r ysgolion ac ati. Medi 2010: Agor Ysgol Diwan Plogastell-Sant-Jermen yn Kerne. Medi 2012: Agor ysgolion Pornizh a Landivizio. Medi 2013: Agor ysgolion Boulvriag a Felger. Cau ysgol Pornizh. Medi 2015: Agor Ysgol Pontekroaz; cau ysgol Diwan Paris. Medi 2016: Agor ysgol Sant-Ervlan. Rhagfyr 2016: Cau ysgol Landivizio. Medi 2016: Agor ysgol Plougastell-Daoulaz. Medi 2018: Agor ysgol Plougerne. Medi 2019: Agor Lise (ysgol uwchradd) Gwened Medi 2020: Trydydd ysgol yn Kemper. Ysgol Kistreberzh yn cau.

30 mlynedd o fodolaeth golygu

Cafodd Diwan ei 30ain pen blwydd yn 2008 yn Karaez, yng nghanol Llydaw.

Yn erbyn Diwan golygu

Mae rhai o bobl sy'n agos at lywodraeth Ffrainc yn siarad yn amal yn erbyn ysgolion Diwan, fel yr aelod seneddol sosialaidd (hen drotskydd) Jean-Luc Mélenchon neu'r awdures ffrangeg Françoise Morvan.

Ysgolion Llydaweg eraill golygu

Wedi creu'r ysgolion Diwan, fe wnaeth sefydliadau addysg gyhoeddus (1979) ac addysg breifat (1990) greu systemau dysgu Llydaweg eu hunain, ac maent yn fwy o ran niferoedd na'r ysgolion Diwan bellach:

  • Mae Dihun Breizh yn gymdeithas rhieni gyda'u plant yn mynychu dosbarthiadau dwyieithog yn y system breifat Gatholig (tua 9,000 o ddisgyblion yn 2021[1])
  • Mae Div yezh Breizh yn gymdeithas rhieni gyda'u plant yn mynychu dosbarthiadau dwyieithog yn y system gyhoeddus (tua 5,000 o ddisgyblion yn 2021[1]).

Nid ysgolion trochi mo'r rhain, ond system o ddysgu dwyieithog, gyda hanner y cynnwys yn Ffrangeg.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Trobwynt i ieithoedd Ffrainc?". pedwargwynt.cymru. Cyrchwyd 2022-09-06.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Dolenni allanol golygu