Diwrnod Dathlu Deurywioldeb

Fe ddathlir Diwrnod Dathlu Deurywioldeb ar 23 Medi gan aelodau'r gymuned ddeurywiol a'u cynghreiriaid.[1][2][3]

Baner deurywiolion, a luniwyd gan Michael Page yn 1998.

Mae'r diwrnod yn galw ar ddeurywiolion a'u teuluoedd, cyfeillion, a chefnogwyr i gydnabod a dathlu deurywioldeb, hanes deurywiol, cymuned a diwylliant deurywiol, a'r bobl ddeurywiol yn eu bywydau.[4][5][6]

Cychwynnodd Ddiwrnod Dathlu Deurywioldeb yn 1999[7][8] gan dri ymgyrchydd hawliau deurywiol o'r Unol Daleithiau: Wendy Curry o Maine, Michael Page o Florida, a Gigi Raven Wilbur o Texas.[9] Dywedodd Wilbur:

Ers gwrthryfel Stonewall, bu'r gymuned hoyw a lesbiaidd yn cynyddu mewn nerth a gwelededd. Fe gynyddwyd y gymuned ddeurywiol mewn nerth hefyd ond mewn nifer o ffyrdd rydym dal yn anweladwy. Rydw i hefyd wedi fy nghyflyru gan gymdeithas i labeli'n awtomatig cwpl sy'n cerdded llaw yn llaw fel naill ai'n strêt neu'n hoyw, yn dibynnu ar rywedd canfyddadwy'r ddau berson.

Dechreuodd y dathliad o ddeurywioldeb yn unig, yn lle digwyddiadau LHDT cyffredinol, fel ymateb i'r rhagfarn ac ymyleiddiad o bobl ddeurywiol gan rai o fewn y cymunedau heterorywiol a LHDT.

Yn ystod ei flwyddyn gyntaf, cynhaliwyd yn sgîl y Gymdeithas Lesbiaidd a Hoyw Ryngwladol, yn ystod wythnos y 23ain. Pan ddechreuodd roedd yn boblogaidd dim ond mewn ardaloedd gyda phresenoldeb deurywiol cryf, ond erbyn hyn fe gynhalir trafodaethau, partïon cinio a dawnsfeydd yn Nhoronto a dawns fasgiau fawr yn Queensland. Ym Mhrifysgol A&M Texas, cynhaliwyd paneli trafod a sesiynau holi-ac-ateb yn ystod yr wythnos.[10] Dathlir y diwrnod yma gan Brifysgol Princeton pob blwyddyn trwy gael parti yng Nghanolfan LHDT y brifysgol. Fe'i ddathlir hefyd yn yr Almaen, Japan, Seland Newydd, Sweden, a'r Deyrnas Unedig.[11][12][13]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Yes, 23 is everywhere. The Planet Star Archifwyd 2012-10-05 yn y Peiriant Wayback.
  2. Weekend Festivities Celebrate Bisexuality
  3. Celebrate Bisexuality Day. University of Calgary Undergraduate Student Newsweekly Archifwyd 2007-05-20 yn y Peiriant Wayback..
  4. BiSexuality Day. Celebrate Bisexuality Day[dolen marw].
  5. "Celebrate Bisexuality Day Archifwyd 2012-03-10 yn y Peiriant Wayback." press release.
  6. Toronto Bisexual Network: Celebrate Bisexuality Day Archifwyd 2010-10-30 yn y Peiriant Wayback.
  7. Day celebrates bisexuality, dispels myths Archifwyd 2008-05-09 yn y Peiriant Wayback.. The Michigan Daily.
  8. Bi Community Celebrates. Bay Windows; 9/25/2003, Vol. 21 Issue 41, p3-3, 1/4p
  9. Scene Around Town. Bay Windows; 9/28/2000, pN.PAG, 00p
  10. Gender Issues Education Center Programs and Events Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback.. Texas A&M University
  11. "Bisexuality Day". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-10. Cyrchwyd 2021-02-19.
  12. "Bikonferens - Bisexual Conference in Sweden during Celebrate Bisexuality Day!". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-02. Cyrchwyd 2008-09-23.
  13. "UK Events to mark International Celebrate Bisexuality Day". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-12. Cyrchwyd 2008-09-23.

Cysylltiadau allanol golygu