Diwylliant Tiwnisia

Adlewyrcha diwylliant Tiwnisia hanes hir y wlad ei hun. Y prif ddylanwadau yw diwylliant yr Arabiaid, yr iaith Arabeg ac Islam, a ddaethant i'r wlad yn y 7g OC. Ond cyn hynny roedd Tiwnisia yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig a'r Ymerodraeth Fysantaidd ac mae diwylliant Lladinaidd a Groegaidd y Môr Canoldir wedi gadael ei ôl ar y wlad hefyd. Yn sylfaen i'r holl ddylanwadau allanol hyn, gan gynnwys diwylliant Ymerodraeth yr Otomaniaid a'r byd Ffrangeg a ddaeth yn ddiweddarach, ceir gwreiddiau diwylliant Tiwnisia yn niwylliant y Berberiaid brodorol ac etifeddiaeth gyfoethog diwylliant Carthago yn yr Henfyd. Elfen ddylanwadol arall, yn enwedig ym mhensaernïaeth a cherddoriaeth y wlad, yw etifeddiaeth y Morisgiaid a ffoes i Diwnisia o Al-Andalus (de Sbaen).

Y Theatr Ddinesig, Tiwnis
Mae'r Khamsa yn symbol a welir ymhob man

Heddiw mae Tiwnisia yn wlad ddwyieithog gyda dwy iaith swyddogol, sef Arabeg a Ffrangeg. Arabeg yw mamiaith pawb bron ond mae Ffrangeg yn cael ei siarad yn dda gan bobl sydd wedi derbyn addysg. Defnyddir Ffrangeg i gyd ag Arabeg mewn sefydliadau addysg uwch. Ceir rhaglenni Ffrangeg ar y teledu ac mae radio yn yr iaith yn gwasanaethu'r wlad o Diwnis. Cyhoeddir sawl papur newydd a chylchgrawn Ffrangeg yn ogystal. Mae gan Tiwnisia lenyddiaeth fywiog yn yr iaith Ffrangeg hefyd. Mewn rhannau o'r de a'r dwyrain ceir ychydig o siaradwyr yr iaith Berber o hyd.

Mae hanes llenyddiaeth Tiwnisia yn gyfoethog. Llenyddiaeth Ffrangeg yw'r diweddaraf i ymuno â'i ffrwd. Cyn hynny roedd gan y wlad lenorion yn yr iaith Ffeniceg a'r iaith Ladin. Cynhyrchodd y wlad llenorion enwog fel Terens, Apuleius a Sant Awstin yn ystod y cyfnod clasurol. Arabeg yw iaith bwysicaf hanes llenyddiaeth Tiwnisia, wrth gwrs, ac yn cynnwys yn ei datblygiad ffigurau fel yr hanesydd enwog Ibn Khaldun. Y llenor diweddar mwyaf dylanwadol oedd Chebbi.

O ran crefydd, mae 99% o'r boblogaeth yn Fwslemiaid ond ceir rhai Cristnogion hefyd, yn arbennig yn nhrefi'r gogledd. Ar un adeg bu gan y wlad boblogaeth bur sylweddol o Iddewon, yn arbennig yn y brifddinas ac yn Djerba, ond ymudodd y mwyafrif ohonynt yn sgîl sefydlu Israel.

Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.