Diwylliant yr Eidal

O grud gwareiddiad hyd at yr 16g bu'r Eidal yn rhan hanfodol o ddiwylliant Ewrop ar hyd y canrifoedd: dyma darddiad y gwareiddiad Etrwscaidd, Rhufain hynafol, yr Eglwys Gatholig, dyneiddiaeth a'r Dadeni Dysg. Oherwydd na unwyd yr Eidal fel un wladwriaeth hyd yn gymharol ddiweddar, bu amrywiaeth mawr mewn diwylliant.

Hunanbortread gan Leonardo da Vinci.

Arlunio golygu

Yn y Canol Oesoedd a chyfnod y Dadeni, roedd arlunwyr yr Eidal yn enwog trwy Ewrop. Ymysg yr arlunwyr a cherflunwyr enwocaf, mae Michelangelo, Leonardo da Vinci, Donatello, Botticelli, Fra Angelico, Tintoretto, Caravaggio, Bernini, Titian a Raffael.

Llenyddiaeth golygu

Gosodwyd sylfeini yr iaith Eidaleg lenyddol fodern gan Dante Alighieri o Fflorens. Ei waith enwocaf yw'r Divina Commedia, a ystyrir yn un o brif gampweithiau Ewrop yn y Canol Oesoedd. Llenorion amlwg eraill yw Giovanni Boccaccio, Giacomo Leopardi, Alessandro Manzoni, Torquato Tasso, Ludovico Ariosto, a Petrarch. Ymysg llenorion diweddar yr Eidal, enillwyd Gwobr Nobel am Lenyddiaeth gan Giosuè Carducci (1906), Grazia Deledda (1926), Luigi Pirandello (1936), Salvatore Quasimodo (1959), Eugenio Montale (1975) a Dario Fo (1997).

Ymysg athronwyr amlwg yr Eidal mae Giordano Bruno, Marsilio Ficino, Niccolò Machiavelli a Giambattista Vico.

Cerddoriaeth golygu

Bu cerddoriaeth yn elfen bwysig iawn yn niwylliant yr Eidal o gyfnod cynnar. Yn yr Eidal y dyfeisiwyd opera, ac mae'n parhau'n boblogaidd iawn hyd heddiw. Y tŷ opera enwocaf yw La Scala yn Milan.

Ymysg cyfansoddwyr enwog yr Eidal mae Giovanni Pierluigi da Palestrina, Alessandro Scarlatti, Arcangelo Corelli, Antonio Vivaldi, Niccolò Paganini, Gioachino Rossini, Giuseppe Verdi a Giacomo Puccini. Canwr enwocaf yr Eidal yn y cyfnod diweddar oedd Luciano Pavarotti.

  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato