Grŵp o ynysoedd yn nwyrain Gwlad Groeg yw'r Dodecanese (Groeg: Δωδεκάνησα) neu Y Deuddeng Ynys.[1] Ystyr yr enw Groeg yw "Y Deuddeg Ynys" ond mae'n enw camarweiniol braidd. Ceir 15 prif ynys yn y grŵp heddiw a cheir trigfannau ar ambell ynys lai yn ogystal. Yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol maent yn perthyn i Wlad Groeg ond yn ddaearyddol maen nhw'n perthyn i Asia Leiaf am eu bod yn gorwedd yn agos iawn i'w harfordir de-orllewinol. Mae'r enw 'Dodecanese' yn deillio o 1908 pan unodd deuddeg ynys mewn protest yn erbyn colli eu breintiau traddodiadol dan lywodraeth yr Otomaniaid, a roddwyd iddynt yn y 16g gan Suleiman y Mawreddog. Ystyrir ynys Rhodes, nad oedd yn un o'r deuddeg ynys gwreiddiol, fel y pennaf o'r Dodecanese heddiw gyda dinas Rhodes yn brifddinas y grŵp. Twristiaeth sy'n dominyddu'r economi lleol erbyn heddiw.

Dodecanese
Mathgrŵp o ynysoedd Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDe Aegeaidd Edit this on Wikidata
GwladGwlad Groeg Edit this on Wikidata
Arwynebedd2,714 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,216 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr Aegeaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.45°N 27.3°E Edit this on Wikidata
Map
Y Dodecanese

Y prif ynysoedd golygu

 
Tref Pigadia ar ynys Karpathos

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Groeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato