Dominique Strauss-Kahn

Economegydd, cyfreithiwr a gwleidydd Ffrengig ydy Dominique Gaston André Strauss-Kahn (ganed 25 Ebrill 1949), a gyfeirir ato'n aml yn y cyfryngau fel DSK,[2][3]. Mae'n aelod o Blaid Sosialaidd Ffrainc. Penodwyd Strauss-Kahn yn Rheolwr Gyfarwyddwr y Gronfa Ariannol Ryngwladol ar 28 Medi 2007, gyda chefnogaeth arlywydd ei wlad Nicolas Sarkozy, a gweithiodd yn y swydd tan ei ymddiswyddiad ar 18 Mai 2011.[4]

Dominique Strauss-Kahn
Dominique Strauss-Kahn
10fed Rheolwr Gyfarwyddwr y Gronfa Ariannol Ryngwladol
Dirprwy John Lipsky
Dechrau cyfnod 1 Tachwedd 2007
Diwedd cyfnod 18 Mai 2011
Rhagflaenydd Rodrigo Rato
Olynydd John Lipsky (gweithredol)[1]
Swydd 2 Gweinidog yr Economi a Chyllid Ffrainc
Dechrau cyfnod 4 Mehefin 1997
Diwedd cyfnod 2 Tachwedd 1999
Dyddiad geni 25 Ebrill, 1949
Man geni Neuilly-sur-Seine, Ffrainc

Mae'n athro economeg llawn yn y Athrofa Paris ar gyfer Astudiaethau Gwleidyddol. Strauss-Kahn oedd Gweinidog yr Economi a Chyllid o 1997 tan 1999 fel rhan o lywodraeth Lionel Jospin. Mae'n perthyn i adain dde y Blaid Sosialaidd yn Ffrainc (sydd ar ochr canol-chwith gwleidyddiaeth Ffrainc).

Ym mis Mai 2011, arestiwyd Strauss-Kahn yn Ninas Efrog Newydd ac fe'i gyhuddwyd o ymosodiad rhywiol, caethiwed gorfodol ac ymgais i dreisio morwyn a aeth i mewn i'w ystafell yn ei westy. Gwrthodwyd mechnïaeth iddo ac aethpwyd ag ef i'r ddalfa, tan ei ymddangosiad nesaf yn y llys ar 20 Mai.[5] Hyd yn hyn nid yw Strauss-Kahn wedi cyflwyno ei ble yn ystod yr achos, ond mae'n gwadu pob cyhuddiad yn ei erbyn.[6] Ar 23 Awst gwrthodwyd yr holl gyhuddiadau.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.Baker (15 Mai 2011). .
  2.  Willsher (15 Mai 2011). Dominique Strauss-Kahn's sex arrest could end presidential hopes. The Guardian.
  3. (Ffrangeg)  Dominique Strauss-Kahn. Gala.fr.
  4.  BOSCHAT, Nathalie; GAUTHIER-VILLARS, David; EL-GHOBASHY, Tamer (19 Mai 2011). Strauss-Kahn Resigns From IMF. The Wall Street Journal.
  5.  Strauss-Kahn Ordered Held Without Bail by N.Y. Judge — Video. Bloomberg.
  6. [1][dolen marw]