Downtown no Gaki no Tsukai ya Arahende!!

Rhaglen deledu Japaneg yw Downtown no Gaki no Tsukai ya Arahende!! (ダウンタウンのガキの使いやあらへんで!! - Downtown's 'This Is No Job For Kids!!'). Dechreuodd y rhaglen deledu gael ei darlledu ar 3 Hydref, 1989 ac mae'n rhaglen deledu comedi poblogaidd yn Japan. Mae'r rhaglen yn cael ei gyflwyno gan y digrifwyr owarai poblogaidd, Downtown. Mae'r sioe yn enwog am ei gemau batsu.

Y sêr o 'Gaki no Tsukai'.

Cast golygu

Cast Rheolaidd golygu

Cast Blaenorol golygu

  • Jimmy Ōnishi (ジミー 大西) - Gadawodd Ōnishi y rhaglen yn 1996 er mwyn ganlynnu gyrfa fel arlunydd.

Cast Afreolaidd golygu

  • Kenji Suga (菅 賢治 Suga Kenji) - Prif gynhyrchydd. Caiff ei weld ar bosteri neu yn chwarae cosplay yn y gemau batsu.
  • Toshihide Saitō (斉藤 敏豪 Saitō Toshihide) - Dylunydd set, cynhyrchydd cynorthwyol. Ei lysenw yw Heipō (ヘイポー) ac mae'n enwog yn y byd 'Gaki no Tsukai' gan ei fod yn hawdd i godi ofn arno ac am ei natur perfaidd.
  • Hiroshi Fujiwara (藤原 寛 Fujiwara Hiroshi) - Cyn-goruchwyliwr Downtown. Caiff ei weld yn chwarae cosplay yn ystod y sioe (fel cymeriadau benywaidd).
  • Hiroyuki Miyasako (宮迫博之 Miyasako Hiroyuki) a Tōru Hotohara(蛍原徹 Hotohara Tōru) - Digrifwyr sydd yn ymuno a'r gast o bryd i bryd.
  • Kazuhiro Fujiwara (藤原一裕 Fujiwara Kazuhiro) a Takafumi Inomoto (井本貴史 Inomoto Takafumi) - Digrifwyr sydd hefyd yn ymuno a'r gast o bryd i bryd. Caiff Fujiwara ei wybod fel "Vacuum Fujiwara" oherwydd y ffordd mae'n bwyta, defnyddiwr y ffaith hyn mewn cwpwl o sgitiau.
  • Itsuji Itao (板尾創路 Itao Itsuji)
  • Shōhei Shōfukutei (笑福亭笑瓶 Shōfukutei Shōhei)
  • Shoji Murakami
  • Moriman
  • Piccadilly Umeda
  • Egashira 2:50

Gweddill golygu

  • Obachan Ichigo ac Obachan Nigo (おばちゃん一号 ac おばちゃん二号 - yn llythyrennol, Hen Ddynes #1 ac Hen Ddynes #2) - Dwy hen ddynes sydd yn gwisgo gwisg anarferol (unwaith gwisgodd y ddwy fel t.A.T.u) yn ystod y gemau batsu.
  • Konya ga Yamada (今夜が山田 neu 今夜がやまだ~ - yn llythyrennol "Heno Yw Yamada!"; Wir enw: David Hossein) - Yn ystod y gemau batsu mae'n ail-ddweud neu ganu ei enw drosodd a throsodd (neu amrywiadau ohonynt - mae "Kon'ya ga yama da" yn meddwl "Mae heno yn bwysig"; mae "Hon'ya ga yama da" yn meddwl "Mae'r siop llyfrau yn bwysig" a.y.y.b) wrth i weddill y gast trio cysgu.
  • Africa Chuou TV (アフリカ中央テレビ) - Criw ffilm ffuglennol o Affrica. Wrth ffilmio, bydd y gynhyrchydd yn dangos cerdyn i'r aelodau o'r sioe gyda cyfarwyddion arni (fel 'dangoswch eich organau cenhedlu' a.y.y.b)
  • Hosshan (ほっしゃん。) - Digrifwr sydd yn ymddangos yn ystod y gemau batsu ac yn rhoi pethau lan ei drwyn ac yn ei dynnu allan o'i geg. Mae hyn yn gwneud i'r cast o'r sioe chwerthin pob tro.
  • Gwraig Itao - Tramorwr (mae'n tebyg o India) sydd yn hoff iawn o ddawnsio'n gwael i Madonna. (Nid gwraig go iawn Itsuji Itao yw hi.)
  • Ayako Nishikawa (西川史子 Nishikawa Ayako) - Meddyg a oedd arfer bod yn Miss Japan. Mae hi fel arfer yn chwarae rôlau sadistaidd o fewn y gemau batsu.
  • Chiaki (千秋 Chiaki) - Cyn-wraig Endō. Jôc a rhedwyd trwy'r sioe yw un ble bydd Endō yn agor drôr o ddesg (neu darn arall o ddodrefn) a ffeindio llunoedd o Chiaki ynddi. Unwaith caiff recordiad o Endō yn gweiddi "Chikai, dwi'n dy garu di!" ei chwarae drosodd a throsodd wrth i'r cast trio cysgu.
  • Takahiro Matsumoto (松本隆博 Matsumoto Takahiro) - Brawd hyn i Matsumoto. Mae'n ymddangos yn y gemau batsu yn chwarae'r gitar neu canu.
  • Hanako (山田花子 Yamada Hanako) - Merch diethr sydd yn trio siarad i'r cast yn ystod y gemau batsu. Digrifwr yw hi, sydd wedi bod o fewn y busnes am fwy o amser na Tanaka neu Endō.
  Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato