Tref yn Dumfries a Galloway, yr Alban, yw Dumfries (Gaeleg: Dùn Phris;[1] Cymraeg: Caerferes).[2] Mae'n dref farchnad fawr a fu'n dref sirol hen sir Dumfries. Saif yn ne-orllewin yr Alban ar lan Afon Nith ger ei haber ym Moryd Solway. Poblogaeth: 49,221 (2011) Mae Caerdydd 400.5 km i ffwrdd o Dumfries ac mae Llundain yn 459.1 km. Y ddinas agosaf ydy Caerliwelydd sy'n 46.9 km i ffwrdd.

Dumfries
Mathtref, large burgh Edit this on Wikidata
Poblogaeth32,914, 33,440, 32,379 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iPassau, Gifhorn, Annapolis, Maryland Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDumfries a Galloway Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
GerllawAfon Nith Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55.07°N 3.62°W Edit this on Wikidata
Cod SYGS20000309, S19000338 Edit this on Wikidata
Cod OSNX976762 Edit this on Wikidata
Cod postDG1–DG2 Edit this on Wikidata
Map

Mae enw Gaeleg y dref yn cynnwys yr elfennau dùn (caer) a phris (coedwig fach; cf. Cymraeg prysgwydd), sy'n awgrymu y bu amddiffynfa ar y safle ar un adeg. Roedd yr ardal yn rhan o diriogaeth llwyth Celtaidd y Selgovae yn yr Hen Ogledd ac mae'n bosibl y bu ganddynt gaer yno.

Bu'r bardd Robert Burns, brodor o Swydd Ayr, yn byw yn Dumfries o 1791 hyd ei farwolaeth yn 1796. Claddwyd ef ym mynwent Eglwys St. Michael's.

Dyma gartref clwb pêl-droed Queen of the South.

Enwogion golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2019-10-08 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 8 Hydref 2019
  2. The New Statistical Account of Scotland, cyf. 2 (Caeredin, 1834)

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato