Y dydd Iau cyn Dydd Gwener y Groglith yn ystod y Pasg yw Dydd Iau Cablyd (neu Difiau Cablyd) (Saesneg: Maundy Thursday neu Shear Thursday). O'r gair Hen Wyddeleg caplat, a hwnnw yn ei dro yn fenthyciad dysgedig cynnar o'r gair Lladin capillatio,[1] y daw'r gair cablyd, a'i ystyr oedd "torri gwallt neu eillio pen" gan yr arferid eillio pennau'r myneich a golchi eu traed ar y dydd hwn, fel rheol fin nos. Arferid gwneud hyn i gofio am y Swper Olaf a'r weithred o olchi traed disgyblion Iesu o Nasareth.

Dydd Iau Cablyd
Enghraifft o'r canlynoldydd gŵyl Cristnogol Edit this on Wikidata
Lliw/iaugwyn Edit this on Wikidata
Rhan oEastern Orthodox liturgical calendar, Holy Week, Paschal Triduum Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganHoly Wednesday Edit this on Wikidata
Olynwyd ganDydd Gwener y Groglith Edit this on Wikidata
Prif bwncswper Olaf Edit this on Wikidata
Enw brodorolDies Cenae Domini Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Crist yn golchi traed y disgyblion; ysgythriad pren gan y Lutheriad Lucas Cranach yr Hynaf, o'r enw 'Cristws'.

Ymddangosodd y term "Nos Ieu Cablut" yn gyntaf mewn ysgrifen tua 1400.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  Cablyd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.