Cronfa ddata ar-lein o wybodaeth meddygol ydy eMedicine a sefydlwyd yn 1996 gan Scott Plantz a Richard Lavely, dau feddyg. Fe'i gwerthwyd yn Ionawr 2006.

Yn y wefan hon, disgrifir llawer iawn o glefydau gan arbenigwyr yn y maes. Ceir 62 maes arbenigol gyda phob erthygl ynddynt wedi eu golygu gan dri arbenigwr sydd â thystysgrif cyfredol gan EMedicine ac un golygydd o'r adran fferyllaeth. Mae'r arbenigwyr hyn yn cael eu henwi, er mwyn dilysrwydd y wefan. Ceir oddeutu 10,000 o feddygon led-led y byd wedi cyfrannu iddi ac mae'r erthyglau'n cael eu hailwampio'n ddyddiol wrth i wybodaeth newydd ddod i'r fei.

Astudiaethau academig golygu

Dengys ymchwil diweddar fod 12% o fyfyrwyr radioleg yn defnyddio'r wefan hon yn gyntaf, cyn unrhyw ffynhonnell wybodaeth arall.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. [Learning radiology a survey investigating radiology resident use of textbooks, journals, and the internet gan Dr K E Applegate; cylchgrawn: Learning radiology; Rhif 14; 2007]

Dolen allanol golygu