Cerddor y Tir Glas o Americanwr oedd Earl Eugene Scruggs (6 Ionawr 192428 Mawrth 2012) a boblogeiddiodd arddull Scruggs, sef canu'r banjo trwy ei blicio â thri bys.

Earl Scruggs
GanwydEarl Eugene Scruggs Edit this on Wikidata
6 Ionawr 1924 Edit this on Wikidata
Boiling Springs, Gogledd Carolina Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mawrth 2012 Edit this on Wikidata
Nashville, Tennessee Edit this on Wikidata
Label recordioUniversal Music Group Nashville Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr caneuon, banjöwr Edit this on Wikidata
ArddullCanu'r Tir Glas Edit this on Wikidata
PriodLouise Scruggs Edit this on Wikidata
PlantRandy Scruggs, Gary Scruggs, Steve Scruggs Edit this on Wikidata
Gwobr/auY Medal Celf Cenedlaethol, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://earlscruggs.com/ Edit this on Wikidata

Dechreuodd Scruggs canu'r banjo'n bedwar mlwydd oed yng nghefn gwlad Gogledd Carolina. Pan oedd yn 10, dechreuodd blicio â'i fawd a'i fysedd blaen a chanol, techneg oedd i'w chael yng Ngogledd Carolina ond nid oedd mor boblogaidd â dull clawhammer. Dysgodd Scruggs i bwysleisio'r felodi â'r bawd ac i ganu'r harmoni â'r ddau fys.[1]

Ymunodd Scruggs â'r Blue Grass Boys dan Bill Monroe ym 1945, y band a arloesodd canu'r Tir Glas. Ar ôl gadael y band ym 1948, cydweithiodd Scruggs â'r gitarydd Lester Flatt, gan flaenu'r Foggy Mountain Boys. Recordiodd y ddau "Foggy Mountain Breakdown" ym 1949, a "The Ballad of Jed Clampett", sef arwyddgan y comedi sefyllfa The Beverly Hillbillies. Ym 1969 sefydlodd Scruggs yr Earl Scruggs Revue â'i feibion, gan ddod â therfyn i'w waith â Flatt. Hyd ei oes, roedd Scruggs yn agored i bob math o gerddoriaeth. Perfformiodd a recordiodd â nifer o gantorion a cherddorion gan gynnwys Bob Dylan, Joan Baez, Ravi Shankar, Leonard Cohen, Billy Joel, Steppenwolf, Sting, Elton John, Don Henley, a Johnny Cash.[1][2]

Ystyrir Scruggs yn un o oreuon offerynwyr canu'r Tir Glas, ac yn aml yn y banjöwr gorau erioed. Mae gwaith Scruggs a'i lyfr Earl Scruggs and the Five-String Banjo wedi ysbrydoli miliynau o fanjöwyr ar draws y byd.[2] Dywedodd Béla Fleck, "cymerodd [Scruggs] y banjo a'i wneud yn offeryn cerdd blaenllaw yn y byd".[3] Ar ôl marwolaeth Scruggs, ysgrifennodd yr actor a'r banjöwr Steve Martin mewn teyrnged iddo: "Mae ar ran fawr o gerddoriaeth Americanaidd ddyled i Earl Scruggs. Ychydig yw'r cerddorion sydd wedi newid y ffordd rydym yn clywed offeryn yn y ffordd mae Earl wedi, gan ei roi mewn categori gyda Miles Davis, Louis Armstrong, Chet Atkins, a Jimi Hendrix."[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Lehmann-Haupt, Christopher (29 Mawrth 2012). Earl Scruggs, Bluegrass Pioneer, Dies at 88. The New York Times. Adalwyd ar 6 Awst 2012.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Russell, Tony (29 Mawrth 2012). Earl Scruggs obituary. The Guardian. Adalwyd ar 6 Awst 2012.
  3. (Saesneg) Cooper, Peter (28 Mawrth 2012). Earl Scruggs, Country Music Hall of Famer and bluegrass innovator, dies at age 88. The Tennessean. Adalwyd ar 6 Awst 2012.
  4. (Saesneg) Banjo musician Earl Scruggs dies aged 8. BBC (29 Mawrth 2012). Adalwyd ar 6 Awst 2012.