Mae Ecser yn bentref yn sir Pest yn Hwngari yn agos i Budapest.

Ecser
Mathmunicipality of Hungary, large village of Hungary Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,114 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCET, UTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirVecsés District Edit this on Wikidata
GwladBaner Hwngari Hwngari
Arwynebedd13.11 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBudapest Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.44437°N 19.32605°E Edit this on Wikidata
Cod post2233 Edit this on Wikidata
Map

Lleoliad golygu

Mae gan Ecser (yngenir ɛʧɛr) enw Slofaceg hefyd sef Ečer gan fod ganddi boblogaeth Slofacaidd fach. Mae hi wedi ei lleoli i dde-orllewin Budapest, yn agos i Faes Awyr Rhyngwladol Ferihegy. Yr aneddiadau cyfagos yw Malgód, Vecsés ac Üllő. Mae traffordd yr M0 yn arwain yn agos i'r bentref ac mae'r bentref wedi ei lleoli ar y rheilffordd 120a (Budapest-Újszász-Szolnok).

 
Lleoliad Pest yn Hwngari

Hanes golygu

Daw'r cofnod ysgrifenedig cyntaf am fodolaeth y pentref o 15 Rhagfyr 1315, er roedd y pentref yn bodoli ers 896 pan gyrhaeddodd yr Hwngariaid. Yn ôl myth lleol, daw enw'r bentref o Frenin Mawr Árpád a aeth i'r anheddiad i orffwys, gan ofyn i'r bobl leol am enw'r lle. Pan na wnaeth y bobl leol ymateb dywedodd wrthynt i alw'r lle ar ôl y dderwen yn y pentref, cser.

Yn ystod trechedd y Twrciaid o 1526 i 1686, bu farw'r pentref, yn enwedig ar ôl gwarchae Buda. Ail-gyrhaeddodd y preswylwyr yn 1699. Yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Rákóczi, bu 11 milwr o Ecser yn ymladd.

I'w nodi golygu

  • Yr unig gofadail yn y pentref yw'r Eglwys Gatholig o 1740.
  • O'r bentref hon daw'r ddawns werin fyd-enwog Priodas yn Ecser (Ecseri lakodalmas)
  • Ar darian y pentref gwelwyd yr eglwys, y ddawns werin, a'r dderwen, y tair argoel fwyaf pwysig i'r bentref.

Gefeilldrefi golygu