Eglwys Bresbyteraidd yr India

Eglwys Gristnogol yn India yw Eglwys Bresbyteraidd India.

Dyma eglwys sydd â chysylltiad arbennig â Chymru oherwydd i gannoedd o bobl o blith enwad y Methodistiaid Calfinaidd, neu Eglwys Bresbyteraidd Cymru, gynnig eu gwasanaeth yno dros y cyfnod o 1841 a 1969. Aent yno fel cenhadon: i sefydlu eglwysi, fel athrawon, fel meddygon etc. Ceir nifer o ysbytai cenhadol o dan adain yr eglwys.

Erbyn hyn mae'r eglwys hon, sydd â'i chraidd yn nhaleithiau gogledd ddwyrain yr India yn rhifo dros 1 miliwn o aelodau (2008) ac yn cefnogi cenhadon sydd yn gweithio drwy weddill India a'r gwledydd cyfagos.

Mae'r eglwys, ynghyd ag Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac Undeb yr Annibynwyr yn perthyn i gorff cenhadol o'r enw C.W.M (Council for World Mission).

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.