Eglwys Gadeiriol Salvador

Eglwys gadeiriol sy'n sedd archesgobaeth dinas Salvador yn nhalaith Bahia, Brasil, yw Eglwys Gadeiriol Salvador (Portiwgaleg: Catedral Basílica de Salvador).

Eglwys Gadeiriol Salvador
Matheglwys gadeiriol Gatholig, basilica minor, safle hanesyddol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1672 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSalvador Edit this on Wikidata
GwladBaner Brasil Brasil
Uwch y môr197 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau12.97283°S 38.51033°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Faróc Edit this on Wikidata
Statws treftadaethheritage asset listed by IPHAN, Heritage of Portuguese Influence Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iGweddnewidiad yr Iesu Edit this on Wikidata
Manylion
EsgobaethArchesgobaeth São Salvador da Bahia Edit this on Wikidata

Crewyd Esgobaeth São Salvador da Bahia de Todos os Santos, y gyntaf yng ngwladfa Bortiwgalaidd Brasil, yn 1551, cwta dwy flynedd ar ôl sefydlu Salvador gan yr uchelwr Portiwgalaidd Tomé de Sousa. Cyrhaeddodd yr esgob cyntaf, Pero Fernandes Sardinha, yn 1552 a chodwyd eglwys gadeiriol yng nghanol y ddinas newydd tua'r adeg hynny.

Yn 1676 daeth yn sedd yr archesgobaeth. Ar ôl 1758, pan yrrwyd y Jeswitiaid allan o'r wlad, trowyd yr hen eglwys Jeswitaidd yn eglwys gadeiriol Salvador. Dymchwelwyd yr eglwys gadeiriol wreiddiol yn 1933 a dim ond olion ei sylfeini sydd i'w gweld yn y Praça da Sé (Sgwar yr Eglwys Gadeiriol) yn Salvador heddiw.

Dolenni allanol golygu