Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf

Enwad lled-Gristnogol yw Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf (Saesneg: The Church of Jesus Christ of Latter-day Saints); adnabyddir ei dilynwyr fel Mormoniaid.

Teml Salt Lake, Salt Lake City, Utah

Sefydlwyd Mudiad Seintiau'r Dyddiau Diwethaf gan Joseph Smith yn nhalaith Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau yn 1830. Wedi llofruddiaeth Joseph Smith, symudodd carfan o'i ddilynwyr tua'r gorllewin dan arweiniad Brigham Young, a sefydlasant ddinas Salt Lake City yn yr hyn sydd nawr yn dalaith Utah. Yno y mae canolfan yr eglwys, gyda changhennau ar draws y byd. Amcangyfrifir fod ganddi 13,824,854 o aelodau yn 2009.

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.