Eglwys Prior y Santes Fair

eglwys yn Nhrefynwy

Saif Eglwys Prior y Santes Fair yn Whitecross Street yn Nhrefynwy, Sir Fynwy, De-ddwyrain Cymru. Eglwys Anglicanaidd yw hi ond fe'i sefydlwyd fel priordy Benedictaidd yn 1075. Mae'r eglwys bresennol, fodd bynnag, yn tarddu'n ôl i'r 18g. Cofrestryd hi yn 1952 gyda Gradd II*.

Eglwys Prior y Santes Fair
Matheglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1075 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrefynwy Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr26.5 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8132°N 2.71392°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iy Forwyn Fair Edit this on Wikidata
Manylion
EsgobaethEsgobaeth Mynwy Edit this on Wikidata

Mae'n un o 24 o adeiladau hanesyddol sydd ar Lwybr Treftadaeth Trefynwy.[1]

Hanes golygu

Ysgythriad 1799 gan R. Ackermann

Adeiladodd yr arglwydd Normanaidd William FitzOsbern gastell yn Nhrefynwy tua 1070. Rai blynyddoedd wedyn, rhoddodd y Llydawr Guihenoc o Fynwy yr eglwys a thir o'i chwmpas i Abaty Sant Fflorent ger Saumur yn Ffrainc. Cysegrwyd eglwys y priordy tua 1101 neu 1102. Ar y dechrau, roedd saith mynach a phrior.

Clychau golygu

Yn 1953 adferwyd ac ail grogwyd y clychau ar ball bearings gan Gillett & Johnston. Yn hydref 1972 roedd yn rhaid ru trwsio, ond roedd y problemau'n parhau a bu'n rhaid eu trwsio eto. Codwyd £4,000 gan Faer y Dref a rhoddwyd £10,000 mewn ewyllus a chomisiynnwyd the Whitechapel Bell Foundry a r gost o £22,000. Cawsant eu hailosod yn Nhachwedd 1982.[2]

Ceir wyth cloch:

Cloch Diametr (mm) Pwysau (kg) Nodyn
1 710 246 Eb
2 740 248 D
3 800 305 C
4 865 357 Bb
5 950 510 Ab
6 990 550 G
7 1070 660 F
8 1200 860 Eb

Y fynwent a'r cyffiniau golygu

 
Carreg fedd John Renie

Ym mhen dwyreiniol y fynwent, yn agos iawn i'r eglwys, y mae carreg fedd John Renie, ei wraig a'i ddau fab. Peintiwr tai oedd Renie a fu farw ym 1832 yn 33 oed. Rhestrwyd y garreg fedd yn Gradd II ar 8 Hydref 2005.[3] Mae'n cynnwys pos acrostig cerfiedig hirsgwar 285-llythyren. O'r H mwyaf ar y sgwâr canol gellir darllen y frawddeg "Here lies John Renie" i unrhyw gyfeiriad.[4] Honnir y gellir darllen y frawddeg mewn 46,000 o wahanol ffyrdd.[1] Mae’n debyg mai Renie a gerfiodd y garreg ei hun. Mae'r awdur a'r clerigwr Lionel Fanthorpe wedi awgrymu efallai mai ei fwriad oedd drysu'r Diafol, gan sicrhau felly i Renie ei daith i'r nefoedd.[5] Mewn gwirionedd, mae gweddillion Renie wedi eu claddu mewn man arall, gan i'r garreg gael ei symud o'i safle gwreiddiol yn ddiweddarach.[6] Serch hynny, mae carreg fedd Renie yn adeilad rhestredig fel y mae un Charles Heath sydd hefyd wedi'i gladdu yn y fynwent.[7]

Dynodwyd muriau'r fynwent, rheiliau, pileri'r gatiau a'r gatiau i'r de-ddwyrain o'r eglwys yn adeiladau rhestredig Gradd II* ar 15 Awst 1974.[8] Mae gatiau haearn gyr y fynwent yn dyddio o 1759, ac mae'r pileri carreg rystig gyda bwâu ochr yn dyddio o'r 1830au.[9]

Lleolir olion y sylfaen fynachaidd ar Stryd y Priordy gerllaw, gan gynnwys Llety'r Priordy, gyda ffenestr oriel hardd o'r bymthegfed ganrif,[10] y credir yn aml ar gam fod ganddi gysylltiad â Sieffre o Fynwy. Credir i Sieffre gael ei eni yn y dref tua 1100, yn ôl pob tebyg o rieni Llydewig, tua'r amser yr oedd y priordy cyntaf yn cael ei adeiladu.[11]

Ym 1851 crëwyd Mynwent Trefynwy pan gaeodd Cyngor Trefynwy Fynwent Eglwys y Santes Fair ar gyfer claddedigaethau, pan ddechreuodd gweddillion dynol pydredig ddechrau ymddangos ar y ddaear. Achoswyd hyn gan safle uchel y fynwent. Dioddefodd trigolion yn Whitecross Street gyfagos gyfradd marwolaeth uchel o ganlyniad ac roedd arogleuon annymunol o'r fynwent hefyd yn amlwg.[12]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Monmouth Civic Society, Monmouth Heritage Blue Plaque Trail, n.d., tud.19
  2. ""The Bells" at monmouthparishes.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-15. Cyrchwyd 2012-04-06.
  3. Cadw. "Gravestone of John Renie in churchyard of Church of St Mary  (Gradd II) (85203)". Cadw. Cyrchwyd 5 Chwefror 2022.
  4. "KELLY'S DIRECTORY OF MONMOUTHSHIRE, 1901". Cyrchwyd 21 Awst 2016.
  5. Suzanne Donald, BBC South East Wales, Who was John Renie?, 9 Mawrth 2006 Archifwyd 6 April 2005 yn y Peiriant Wayback.. Cyrchwyd 12 Ionawr 2012
  6. Roy Palmer, The Folklore of (old) Monmouthshire, Logaston Press, 1998, ISBN 1-873827-40-7, p. 177
  7. Cadw. "Memorial to Charles Heath in Churchyard of Church of St Mary  (Gradd II) (75210)". Cadw. Cyrchwyd 5 Chwefror 2022.
  8. Cadw. "Churchyard walls, railings, gate piers and gate in St Mary's churchyard  (Gradd II*) (2780)". Cadw. Cyrchwyd 5 Chwefror 2022.
  9. Newman 2000, t. 397.
  10. Newman 2000, t. 395.
  11. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 13 Ionawr 2012
  12. "History of Monmouth Cemetery". Monmouthshire County Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Medi 2011. Cyrchwyd 27 Chwefror 2012.
  • J. Newman, The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire (Penguin Books, 2000)
  • Keith Kissack, Monmouth and its Buildings (2003, Logaston Press, 2003)

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: