Eglwys y Bedyddwyr Westboro

Mae Eglwys y Bedyddwyr Westboro (EBW) yn eglwys o dan arweiniad Fred Phelps. Lleolir yr eglwys yn nhref Topeka, Kansas, yr Unol Daleithiau. Mae'r sefydliad yn cael ei fonitro gan yr Anti-Defamation League, a chaiff ei ystyried yn grŵp casineb gan Ganolfan Gyfreithiol Tlodion y De.[1]

Eglwys y Bedyddwyr Westboro
Enghraifft o'r canlynolchurch congregation, hate group Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu27 Tachwedd 1955 Edit this on Wikidata
SylfaenyddFred Phelps Edit this on Wikidata
PencadlysTopeka Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.godhatesfags.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Myfyrwyr hoyw a lesbiaid yn cusanu o flaen protestwyr o Eglwys y Bedyddwyr Westboro yng Ngholeg Oberlin, (Oberlin, Ohio, UDA) ym mis Mai 2000. Daeth cannoedd o fyfyrwyr i ddangos eu gwrthwynebiad i brotest Eglwys Westboro.

Mae gan yr eglwys nifer o wefannau megis GodHatesFags.com, GodHatesAmerica.com ac eraill ac mae'r gwefannau hyn yn beirniadu cyfunrywioldeb, Catholigion Rhufeinig, Mwslimiaid ac Iddewon yn ogystal â chenhedloedd maent o'r farn sy'n cefnogi'r grwpiau yma: mae'r gwledydd hyn yn cynnwys Gweriniaeth Pobl Tsieina, Sweden, Canada, Gweriniaeth Iwerddon, y Deyrnas Unedig, Mecsico a'r Unol Daleithiau.

Er eu bod yn adnabyddus mewn cymunedau LHDT am brotestio mewn gorymdeithiau balchder hoyw ac mewn angladdau, cafodd y grŵp enwogrwydd cenedlaethol trwy brotestio mewn gorymdeithiau angladdol milwyr a laddwyd wrth frwydro yn Irac.

Tra bod aelodau'r grŵp yn ystyried eu hunain yn Fedyddwyr, mae'r EBW yn eglwys annibynnol ac nid yw'n gysylltiedig â mudiadau Bedyddwyr eraill. Disgrifia'r eglwys ei hun fel Bedyddwyr Cyntefig sy'n dilyn egwyddorion Calfinaidd, er bod Bedyddwyr Cyntefig cyffredin yn condemnio Eglwys y Bedyddwyr Westboro a Phelps. Mae safbwyntiau Eglwys y Bedyddwyr Westboro yn safbwyntiau nad yw'r mwyafrif o Fedyddwyr a Chalfinwyr yn cytuno â hwy ac ni ystyrir eu safbwynt fel un nodweddiadol Fedyddwyr neu Galfinaidd.

Mae'r grŵp wedi ymestyn eu protestiadau i wledydd tramor. Ym mis Chwefror 2009, cyhoeddodd yr Eglwys y byddent yn mynd i'r Deyrnas Unedig i brotestio yn erbyn penderfyniad i gynnal perfformiad o “The Laramie Project” yn Central Studio, Coleg y Frenhines Fair yn Basingstoke, Lloegr ar yr 20fed o Chwefror, 2009. Mae'r ddrama am lofruddiaeth dreisgar gwr ifanc o'r enw Matthew Shepard, ym 1998. Dyma fyddai eu protest gyntaf yn y DU. Apeliodd nifer o Aelodau Seneddol, grwpiau ymgyrchu a grwpiau LHDT i Jacqui Smith, yr Ysgrifennydd Cartref, gan ofyn iddi ddefnyddio ei phŵer i wahardd unigolion rhag cael mynediad i'r DU, am y byddai Eglwys y Bedyddwyr Westboro yn annog casineb tuag at bobl LHDT. Ar y 18fed o Chwefror, 2009, deuddydd cyn dyddiad y brotest arfaethedig, cyhoeddodd Y Swyddfa Gartref y byddai Fred Phelps a Shirley Phelps-Roper yn cael eu gwrthod rhag dod i'r DU.[2][3] Dywedodd Asiantaeth Ffiniau'r Deyrnas Unedig y byddent yn gwrthod caniatad i aelodau Eglwys y Bedyddwyr Westboro hefyd rhag dod i mewn i'r wlad. Dywedodd yr Eglwys y byddent yn protestio yng Mardi Gras Sydney yn yr un mis.[1]

Cyferiadau golygu

  1. 1.0 1.1 Gwefan Anti-Defamation League Archifwyd 2007-03-08 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 02-03-2009
  2. Brit ban for hate preachers sun.co.uk 18 Chwefror 2009. Adalwyd 02-03-2009]
  3. US Church which calls for homosexuals to be killed banned from UK Archifwyd 2009-02-23 yn y Peiriant Wayback. Telegraph.co.uk 19 Chwefror 2009. Adalwyd 02-03-2009