Yr astudiaeth wyddonol o gefnforoedd y Ddaear yw eigioneg, cefnforeg neu wyddor fôr. Mae'n gangen o wyddorau daear ac mae'n cynnwys bioleg fôr, ceryntau a thonnau, daeareg gwaelod y môr, tectoneg platiau ac ati. Mae'r pynciau hyn yn cwmpasu amlddisgyblaethau sy'n cael eu cyfuno gan yr eiconegydd er mwyn dod i ddeall mwy a mwy am y môr a'r prosesau gwaelodol sydd fel sail iddi: bioleg, daeareg, meteoroleg, daearyddiaeth a ffiseg.[1][2]

Cerrynt y Ddaear; 1911.

Rhan ohoni yw paleoeigioneg, sef yr astudiaeth o gefnforoedd y Ddaear yn y gorffennol pell.

Geirdarddiad golygu

Benthyciad o'r Lladin oceānus yw eigioneg. Mae'r cofnod cyntaf o'i ddefnydd yn Llyfr Du Caerfyrddin ac yn deillio'n ôl i'r C13: Eil kanuill cristaun. a leuich uch eigaun. ganrif yn ddiweddarach cofnodir yn Llyfr Taliesin (Peniarth 2) am fynd dros eigyawn iwerddon. Cefnfor, felly, yw ystyr y gair 'eigion' ac fe'i benthyciwyd i'r Gymraeg gan y Rhufeiniaid.

Cyfeiriadau golygu