Seren ffilmiau erotig neu bornograffig Siapaneaidd yw eilun AV (Siapaneg: AV女優, AV joyu neu AV aidoru). Daw'r enw o'r acronym 'AV', sef adult video (business), term a fenthycwyd i'r Siapaneg heb ei gyfieithu. Does dim rhaid i eilun AV fod yn actores bornograffig fel y cyfryw; mae ffilmiau AV yn amrywio'n fawr, o rai sy'n dangos yr actores yn gwisgo bicini neu ddillad ysgol heb fod yn noeth i ffilmiau pornograffig caled. Yn Siapan mae rhai eilunod AV yn enwog gyda rhai wedi symud ymlaen i ddilyn gyrfaoedd ym myd teledu neu i fod yn gantorion. Ers cychwyn y diwydiant AV ar ddechrau'r 1980au, mae cannoedd o ferched wedi dilyn gyrfa eilun AV, yn aml am gyfnod byr ond weithiau am sawl blwyddyn. Merched ifanc yw'r eilunod AV fel rheol, gyda'r bwyslais ar fod yn ddel a deniadol (kawai) yn hytrach na bod yn rhywiol yn unig, ond yn ddiweddar mae eilunod AV hŷn wedi ymddangos hefyd.

Eilun AV: Shelly Fujii (chwith) a Nozomi Oishi.

Y diwydiant AV golygu

 
Akari Asahina yn modelu mewn digwyddiad llofnodi yn Kobe.

Dydy pob actores bornograffig ddim yn cyfrif fel 'eilun AV' o reidrwydd, ond gellir cael rhyw syniad o boblogrwydd y genre o ffigurau cynhyrchu'r diwydiant AV yn gyffredinol, sy'n werth tua ¥400 biliwn y flwyddyn ac yn un o'r diwydiannau mwyaf yn Siapan. Hyd yn oed yn 1992, roedd tuag 11 ffilm AV yn cael eu cynhyrchu bob bydd gan 70 cwmni cynhyrchu yn ardal Tokyo yn unig. Roedd y farchnad AV yn cynrychioli tua 30 y cant o'r fideos a rentwyd yn Japan.[1] Eto yn 1994, amcangyfrid fod tua 14,000 ffilm AV o bob math yn cael eu gwneud yn Japan, mewn cymhariaeth a tua 2,500 yn yr Unol Daleithiau.[2]

Mae ffilmiau eilun AV yn cynnwys pob math o genres erbyn heddiw. Mae ffilmiau artistig gyda'r pwyslais ar fod yn ddel yn bennaf yn aros yn boblogaidd iawn; fel rheol dydy'r ffilmiau hyn ddim yn cynnwys actio'n noeth na golygfeydd rhyw, er eu bod yn erotig. Ar y llaw arall, mae'r ffilmiau gwirioneddol bornograffig yn cynnwys sawl math o thema a sefyllfa rhyw a ffantasi rhywiol, gyda 'merched ysgol' a 'BDSM' yn nodweddiadol.

Rhai eilunod AV enwog golygu

Mae cannoedd o ferched yn ymddangos mewn ffilmiau AV yn Siapan bob blwyddyn. Mae hon yn rhestr o'r eilunod AV sydd wedi dod yn adnabyddus yn Siapan oherwydd eu lle arbennig yn y diwydiant.

1980au golygu

[Top]

[Top]

1990au golygu

[Top]

[Top]

2000au golygu

[Top]

[Top]

Cyfeiriadau golygu

  1. [1]Tokyo Journal Archifwyd 2018-06-18 yn y Peiriant Wayback.
  2. Pornography, Rape and Sex Crimes in Japan, Pacific Center for Sex and Society; Prifysgol Hawai`i