Papur newydd Sbaenaidd yw El País (sy'n golygu "Y Wlad" yn Sbaeneg). Fe'i sefydlwyd yn 1976 a lleolir ei brif swyddfeydd ym Madrid. Mae'n disgrifio ei hun fel "y papur newydd Sbaeneg byd-eang".

Yn ogystal â'r argraffiad print, a werthir ar draws y byd Sbaeneg, cyhoeddir argraffiad Saesneg fel atodiad i The New York Times. Ceir fersiynau Sbaeneg a Saesneg ar-lein hefyd.

Mae cyfranwyr nodedig yn cynnwys Mario Vargas Llosa.

Mae El País yn un o'r papurau newydd sy'n cydweithredu gyda WikiLeaks i gyhoeddi detholiad o'r dogfennau cyfrinachol a gyhoeddir ar y wefan honno.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am bapur newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato