Grŵp → 10
↓ Cyfnod
4 28
 Ni 
5 46
 Pd
6 78
 Pt 
7 110
 Ds 

Grŵp o ddeg elfen yn y tabl cyfnodol ydy elfen grŵp 10. Maen nhw i gyd yn fetelau trosiannol gwyn neu lwyd golau eu lliw. Yn nhrefn safonnol IUPAC mae grŵp 10 yn cynnwys: nicel (Ni), paladiwm (Pd), platinwm (Pt), a darmstadtiwm (Ds).

Mae patrwm yr electronnau'n debyg rhwng aelodau unigol y teulu, yn enwedig ar du allan y gragen, er mai gwan iawn ydy'r patrwm yn y grŵp neu'r teulu hwn o elfennau. Mae yna un eithriad: paladiwm.

Z Elfen Nifer yr electronnau
28 nicel 2, 8, 16, 2
46 paladiwm 2, 8, 18, 18
78 platinwm 2, 8, 18, 32, 17, 1
110 darmstadtiwm 2, 8, 18, 32, 32, 17, 1

Priodweddau golygu

Fel y dywedwyd uchod, maen nhw i gyd yn fetalau trosiannol gwyn neu lwyd golau eu lliw ac yn eitha gloyw (Saesneg: "high luster") a thydyn nhw ddim yn ocsideiddio'n hawdd.

Cymhwyso golygu

  • Addurniadau ar dlysau e.e. electro-haenu
  • Catalydd mewn nifer o adweithiau cemegol
  • Aloi metel
  • Metal Alloys
  • Rhannau electronig gan eu bont yn aros yn gyson mewn tymhereddau gwahanol.